Mae anneuaidd[1] (ceir hefyd y sillafiad aneuaidd[angen ffynhonnell]) neu genderqueer yn derm mantell sy'n disgrifio hunaniaethau rhywedd nad ydynt yn wrywaidd na fenywaidd—hunaniaethau sydd y tu allan i'r system rhywedd ddeuaidd.[2][3] Mae hunaniaethau anneuaidd yn dod o dan ymbarél trawsrywedd, gan fod pobl anneuaidd fel arfer yn uniaethu â rhywedd sy'n wahanol i'r rhyw a bennwyd adeg eu genedigaeth,[3] er nad yw rhai pobl anneuaidd yn ystyried eu hunain yn drawsryweddol.[4] Mae enby (o'r talfyriad Saesneg 'NB') yn enw arall ar gyfer anneuaidd.[5]
Trawsrywedd |
---|
Hunaniaethau |
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd |
Pynciau |
Cwestiynu · Trawsrywioldeb |
Agweddau clinigol a meddygol |
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol |
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol |
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 |
Rhestrau |
Pobl |
Categori |
Gall fod gan bobl anneuaidd ddau neu dri hunaniaeth rhywedd (bod yn ddeuryweddol neu'n drirhyweddol);[6][7] neu heb rywedd (anrhywedd - agender, di-rywedd - non-gendered); gallant symud rhwng ryweddau neu fod â hunaniaeth rhywedd sy'n newid (rhywedd-hylif[angen ffynhonnell] - genderfluid);[8] gallant fod â huniaeth trydydd rhywedd neu wedi'u rhyweddu'n arall[angen ffynhonnell] (categori sy'n cynnwys y rheini nad ydynt yn rhoi enw i'w rhywedd).[9]
Mae hunaniaeth rhywedd yn wahanol i gyfeiriadedd rhywiol neu ramantaidd,[10] ac mae gan bobl anneuaidd amrywiaeth o gyfeiriadedd rhywiol, yn union fel pobl gydryweddol (cis).[11]
Nid yw hunaniaethau rhywedd anneuaidd yn gysylltiedig â mynegiant rhywedd penodol, megis androgynedd. Mae gan bobl anneuaidd fel grŵp amrywiaeth eang o fynegiannau rhywedd, a gall rhai wrthod "hunaniaethau" rhywedd yn gyfan gwbl.[12] Mae rhai pobl anneuaidd yn cael triniaeth feddygol ar gyfer dysfforia rhywedd gyda llawdriniaeth neu hormonau, yn debyg i ddynion traws a menywod traws.
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw richardsetal
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Bosson-2018
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Whyte
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Schorn