O fewn y grwp Hypsiboas calcaratus–fasciatus ceir o leiaf 6 rhywogaeth o froga. | |
Enghraifft o: | rheng tacson, rheng mewn swoleg, rheng mewn botaneg |
---|---|
Math | tacson |
Rhan o | isgyfres, isgenws |
Yn cynnwys | poblogaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rheng tacson yw rhywogaeth (lluosog: rhywogaethau) a ddefnyddir i ddosbarthu'n wyddonol organebau byw (anifeiliaid, planhigion ayb). Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio o fewn bywydeg ar gyfer ffosiliau ac organebau a ddifodwyd. Ceir hefyd 'is-rywogaeth'. Mewn bioleg, diffinnir rhywogaeth yn aml fel y grŵp mwyaf o organebau lle gall unrhyw ddau unigolyn atgenhedlu epil ffrwythlon, fel arferl trwy atgenhedlu rhywiol. Dyma'r uned ddosbarthu sylfaenol a rheng tacsonomig organeb, yn ogystal ag uned o fioamrywiaeth. Mae ffyrdd eraill o ddiffinio rhywogaethau yn cynnwys eu caryoteip, dilyniant DNA, morffoleg, ymddygiad, neu gilfach ecolegol. Yn ogystal, mae paleontolegwyr yn defnyddio'r cysyniad o gronorywogaeth gan na ellir archwilio atgenhedlu mewn ffosiliau.
Yn 2018, amcangyfrir fod cyfanswm nifer y rhywogaethau o ewcaryotau yw rhwng 8 ac 8.7 miliwn.[1][2][3] Fodd bynnag, dim ond tua 14% o'r rhain oedd wedi'u disgrifio erbyn 2011.[3]
Mae pob rhywogaeth (ac eithrio firysau) yn derbyn enw deuenwol: y rhan gyntaf yw'r genws y mae'r rhywogaeth yn perthyn iddo. Gelwir yr ail ran yn enw penodol neu'r epithet penodol (mewn systemau enwi botanegol ac hefyd weithiau mewn enwau sŵolegol). Er enghraifft, mae Boa constrictor (neidr wasgu boa) yn un o rywogaethau'r genws Boa, a constrictor yw epithet y rhywogaeth.
Er y gall y diffiniadau a roddir uchod ymddangos yn ddigonol ar yr olwg gyntaf, o edrych yn fanylach arnynt maent yn cynrychioli broblematig. Er enghraifft, daw'r ffiniau rhwng rhywogaethau sy'n perthyn yn agos yn aneglur gyda chroesi, mewn cymhlyg rhywogaethau (species complex) o gannoedd o ficrorywogaethau tebyg, ac mewn rhywogaethau cylchog. Er nad yw'r un o'r rhain yn ddiffiniadau cwbl foddhaol, ac er efallai nad yw'r cysyniad o rywogaethau yn fodel perffaith o fywyd, mae'n dal i fod yn offeryn hynod ddefnyddiol i wyddonwyr a chadwraethwyr ar gyfer astudio bywyd ar y Ddaear. Pe bai rhywogaethau'n sefydlog ac yn amlwg yn wahanol i'w gilydd, ni fyddai unrhyw broblem, ond mae prosesau esblygiadol yn achosi i rywogaethau newid. Mae hyn yn gorfodi tacsonomegwyr i benderfynu, er enghraifft, pryd mae digon o newid wedi digwydd i ddatgan y dylid rhannu llinach yn gronorywogaethau lluosog, neu pan fo poblogaethau wedi ymwahanu'n ddigonol i'w disgrifio fel rhywogaeth gytrasaidd.
Gwelwyd rhywogaethau o gyfnod Aristoteles hyd at y 18g fel categorïau sefydlog y gellid eu trefnu mewn hierarchaeth, y gadwyn bod. Yn y 19g, roedd biolegwyr yn deall y gallai rhywogaethau esblygu o gael digon o amser. Esboniodd llyfr Charles Darwin 1859 On the Origin of Species sut y gallai rhywogaethau newid trwy ddetholiad naturiol. Ehangwyd y ddealltwriaeth honno'n fawr yn yr 20g trwy eneteg ac ecoleg poblogaeth. Mae amrywioldeb genetig yn deillio o mwtadu ac ailgyfuno, tra bod organebau eu hunain yn symudol, gan arwain at ynysu daearyddol a drifft genetig. Weithiau gellir cyfnewid genynnau rhwng rhywogaethau trwy drosglwyddo genynnau llorweddol; gall rhywogaethau newydd godi'n gyflym trwy groesi a pholyploidy; a gall rhywogaethau ddiflannu am amryw o resymau. Mae firysau'n achos arbennig, a yrrir gan gydbwysedd o fwtadu a dethol, a gellir eu trin fel lled-rywogaethau.