Richard Price | |
---|---|
Ganwyd | 23 Chwefror 1723 Llangeinwyr |
Bu farw | 19 Ebrill 1791 Newington Green |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr, Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, actiwari, diwinydd, llenor, mathemategydd, clerig |
Cyflogwr | |
Tad | Rice Price |
Mam | Catherine Richards |
Priod | Sarah Blundell |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America |
llofnod | |
Athronydd radicalaidd ac awdur o Gymru oedd Richard Price (23 Chwefror 1723 – 19 Ebrill 1791). Galwyd ef yn "Gyfaill Dynolryw" ac roedd yn ddyn hynod o boblogaidd yn ei amser, ond gan iddo ochri gyda'r Chwyldro Ffrengig, ychydig iawn o sôn amdano fu wedi iddo farw. Yn ôl yr hanesydd John Davies, "Richard Price oedd y meddyliwr mwyaf gwreiddiol a fagodd Cymru erioed".[1]