Richard Thaler | |
---|---|
![]() Thaler yn 2015 | |
Ganwyd | Medi 12, 1945 East Orange, New Jersey, United States |
Meysydd | Behavioral finance |
Sefydliadau | Graduate School of Management at the University of Rochester (1974–1978) Johnson School of Management at Cornell University (1978–1995) Booth School of Business at the University of Chicago (1995–present) |
Thesis | (1974) |
Ymgynghorydd Doethuriaeth | Sherwin Rosen |
Dylanwadau | Daniel Kahneman Herbert A. Simon |
Dylanwadau | George Loewenstein |
Prif wobrau | Nobel Memorial Prize in Economic Sciences (2017) |
Mae Richard H. Thaler (/ˈθeɪlər//ˈθeɪlər/; ganwyd 12 Medi 1945) yn economegwr Americanaidd ac yn Athro yn y Gwyddorau Ymddygiadol ym Mhrifysgol Chicago.
O bosibl, caiff ei adnabod yn well fel damcaniaethwr mewn ariannu ymddygiadol ynghyd a'i waith gyda Daniel Kahneman ac eraill mewn meysydd tebyg. Yn 2017, gwobrwyd ef a Gwobr Nobel yn y Gwyddorau Ymddygiadol am ei gyfraniad i economeg ymddygiadol.[1][2][3][4] Wrth ddyfarnu Thaler a'r Wobr Nobel, dywedodd y Royal Swedish Academy of Sciences fod ei gyfraniadau wedi adeiliadu pontydd rhwng asesiadau economeg a seicoleg o sut mae unigolyn yn gwneud dewisiadau. Dywedir bod ei ddarganfyddiadau empeiraidd a'i fewnwelediadau damcaniaethol wedi bod yn hollbwysig wrth greu ac ehangu maes economeg ymddygiadol.[5]
Ysgrifennodd Thaler, ar y cyd a Cass Sunstein llyfr dylanwadol Nudge: Improving Decisions About Health, Wealth, and Happiness (Yale University Press, 2008). Mae Nudge yn trafod sut gall sefydliadau cyhoeddus a phreifat helpu pobl i wneud dewisiadau gwell yn eu bywyd o ddydd i ddydd. "Mae pobl yn aml yn gwneud dewisiadau gwael - ac yn edrych yn ôl mewn dryswch!" Ysgrifenna Thaler and Sunstein. Bathodd Thaler a Sunstein y term 'pensaernio dewis'.[6]