Richard Livsey | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 2 Mai 1935 ![]() Talgarth ![]() |
Bu farw | 16 Medi 2010, 15 Medi 2010 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Ryddfrydol ![]() |
Tad | Arthur Norman Livsey ![]() |
Mam | Lilian Mairsie James ![]() |
Priod | Irene Martin Earsmen ![]() |
Plant | David Livesey, Jenny Livesey, Doug Livesey ![]() |
Gwobr/au | CBE ![]() |
Gwleidydd Cymreig oedd Richard Arthur Lloyd Livsey, Barwn Livsey o Dalgarth (2 Mai 1935 – 16 Medi 2010). Roedd yn aelod o'r Blaid Ryddfrydol hyd 1988, wedyn y Democratiaid Rhyddfrydol.
Magwyd ef yn nhref Talgarth, a chymerodd radd MsC mewn Rheolaeth Amaethyddol ym Mhrifysgol Reading. Etholwyd ef yn Aelod Seneddol dros etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed mewn is-etholiad yn 1985, a chadwodd y sedd yn Etholiad Cyfffredinol 1987. Daeth yn llefarydd ei blaid ar faterion Cymreig, ac yn arweinydd y blaid yng Nghymru o 1988 hyd 1992. Collodd ei sedd o 130 o bleidleisiau yn Etholiad Cyffredinol 1992, ond enillodd hi eto yn Etholiad Cyffredinol 1997, gyda mwyafrif o dros 5,000.
Roedd yn ffigwr amlwg yn yr ymgyrch o blaid datganoli yn 1997, ac yn aelod o'r grŵp Cymru Yfory.