Casgliad hynafol Indiaidd o emynau Vedig yn yr iaith Sansgrit a gysegrir i'r duwiau (devau) yw'r Rig Veda neu Rigveda (Sansgrit: ऋग्वेद Rigveda, cyfansoddair o'r gair rig "mawl, cerdd" a veda "gwybodaeth"). Fe'i hystyrir yn un o'r pedwar testun sanctaidd canonaidd (śruti) yn Hindŵaeth a adnabyddir fel y Veda. Hyd heddiw mae rhai o'r cerddi yn cael yn cael eu hadrodd fel gweddïau Hindŵaidd, mewn gwasanaethau crefyddol ac ar achlysuron arbennig, ac felly mae'n cyfrif fel un o'r hynaf o destunau crefyddol y byd sy'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw.
Yn ogystal mae'n un o'r testunau hynaf mewn unrhyw iaith Indo-Ewropeaidd, er bod arbenigwyr yn anghytuno am ei oed. Mae'r dystiolaeth ieithyddol ac ieithegol yn awgrymu y cafodd y Rig Veda ei gyfansoddi yn ardal y Sapta Sindhu (gwlad "y Saith Afon"), sy'n cyfateb i ardal y Punjab ym Mhacistan a gogledd-orllewin India, tua 1500–1000 CC (y Cyfnod Vedig Cynnar). Ceir sawl cyfatebiaeth ieithyddol a diwylliannol gyda'r Avesta Iranaidd cynnar, cyfatebiaethau sy'n deillio o'r cyfnod Proto-Indo-Iranaidd, a gysylltir gan rai â'r diwylliant Andronovo o tua 2000 CC. Mae rhai ysgolheigion wedi dadlau fod cysylltiad rhwng y Rig Veda a Gwareiddiad Dyffryn Indus hefyd.