Rihanna | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Rihanna, Ri, RiRi, Rihanna ![]() |
Ganwyd | Robyn Rihanna Fenty ![]() 20 Chwefror 1988 ![]() Saint Michael ![]() |
Label recordio | Def Jam Recordings, Westbury Road Entertainment, Roc Nation ![]() |
Dinasyddiaeth | Barbados ![]() |
Galwedigaeth | canwr, person busnes, actor, actor teledu, dylunydd ffasiwn, actor llais ![]() |
Arddull | cerddoriaeth ddawns, cyfoes R&B, cerddoriaeth boblogaidd, reggae, hip hop, cerddoriaeth dawns electronig ![]() |
Math o lais | mezzo-soprano ![]() |
Prif ddylanwad | Aaliyah ![]() |
Taldra | 173 centimetr ![]() |
Partner | A$AP Rocky, Hassan Jameel ![]() |
Plant | RZA Athelston Mayers ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Grammy am y Cydweithrediad Rap/Canu Gorau, Icon Award, Grammy Award for Best Progressive R&B Album, Dyngarwr y Flwyddyn, Grammy Award for Best Dance/Electronic Recording, Gwobr Grammy am y Cydweithrediad Rap/Canu Gorau, Grammy Award for Best Rap Song, Gwobr Grammy am y Cydweithrediad Rap/Canu Gorau, Gwobr Grammy am y Fideo Cerdd Gora, Gwobr Grammy am y Cydweithrediad Rap/Canu Gorau, Gwobr Grammy am y Cydweithrediad Rap/Canu Gorau, BRIT Award for International Female Solo Artist, BRIT Award for International Female Solo Artist, Gwobr Time 100, Barbadian National Heroes ![]() |
Gwefan | https://www.rihanna.com ![]() |
llofnod | |
![]() |
Mae Robyn Rihanna Fenty (ganed 20 Chwefror 1988),[1] sy'n perfformio o dan yr enw Rihanna (ynganer /riːˈɑːnə/), yn gantores a model o Barbados. Fe'i ganed yn Saint Michael, Barbados, cyn iddi symud i'r Unol Daleithiau pan oedd yn un-ar-bymtheg oed, er mwyn dilyn gyrfa ym myd cerddoriaeth, o dan arweiniad y cynhyrchydd recordiau, Evan Rogers. Yn ddiweddarach, arwyddodd gytundeb gyda "Def Jam Recordings" ar ôl iddi gael clywediad gyda phennaeth y cwmni ar y pryd, Jay-Z.[2]
Yn 2005 rhyddhaodd Rihanna ei halbwm stiwdio cyntaf, "Music of the Sun", a aeth i ddeg uchaf y Billboard 200. Llai na blwyddyn yn ddiweddarach, rhyddhaodd ei hail albwm A Girl Like Me, a aeth i bump uchaf siart albymau Billboard, gan rhoi ei rhif un cyntaf iddi gyda'r sengl "SOS". Aeth trydydd albwm stiwdio Rihanna, Good Girl Gone Bad (2007), i rif dau y diart Billboard 200. Cafodd dri sengl a aeth i rhif un yn yr Unol Daleithiau, "Umbrella", "Take a Bow" a "Disturbia", yn ogystal â "Don't Stop the Music". Enwebwyd yr albwm am naw Gwobr Grammy. Mae Rihanna wedi gwerthu dros ddeuddeg miliwn o albymau yn fydeang yn ei gyrfa o bedair blynedd yn unig.