Enghraifft o: | mudiad gwleidyddol, mudiad cymdeithasol, cyfnod o hanes, uno gwleidyddol |
---|---|
Dyddiad | 1815 |
Dechreuwyd | 1815 |
Daeth i ben | 1871 |
Lleoliad | yr Eidal |
Gwladwriaeth | Teyrnas yr Eidal, Teyrnas Sardinia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mudiad diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol yn yr Eidal yn y 19g oedd y Risorgimento (yn llythrennol, "yr Adfywiad"). Uno'r Eidal fel gwladwriaeth oedd ei nod – nod a gyflawnodd yn y pen draw. Roedd y mudiad yn arddel delfrydau rhamantaidd, cenedlaetholgar a gwladgarol a oedd yn dyheu am ddychweliad i undod gwleidyddol a gollwyd ar ôl cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig y Gorllewin yn y 5g.
Erbyn dechrau'r 19g roedd Penrhyn yr Eidal yn glytwaith o daleithiau a oedd i raddau mwy neu lai o dan reolaeth dramor neu gan y Pab. Enillodd y mudiad dros uno momentwm ar ôl cwymp Napoleon a Chyngres Fienna (1814–15). Sefydlwyd Giovine Italia, mudiad gweriniaethol chwyldroadol, gan Giuseppe Mazzini yn 1831. Ym 1848 bu gwrthryfeloedd yn Sisili, Milan, Fenis a Thaleithiau'r Babaeth. Dilynwyd y rhain gan Ryfel Annibyniaeth Cyntaf yr Eidal (1848–9) ac Ail Ryfel Annibyniaeth yr Eidal (1859) lle chwaraeodd Giuseppe Garibaldi ran allweddol.
Cyrhaeddodd y gweithgaredd gwleidyddol a milwrol hwn ei anterth pan gyhoeddwyd Teyrnas yr Eidal ar 17 Mawrth 1861 â Vittorio Emanuele II yn frenin. Parhaodd y broses o uno pan ymgorfforwyd y Veneto yn 1866 a daeth i ben ar ôl cipio Rhufain a'r Taleithiau Pabaidd ar 20 Medi 1870.