Ar y llaw arall, mae Riviera yn golygu rhyw 650 Km (400 o filltiroedd) o arfordir sy'n ymestyn o Les Leques, ger St-Cyr-sur-Mer yn Ffrainc drwy Monaco hyd at Marinella, ger La Spezia yn yr Eidal.
Prif ddinas y Riviera Ffrengig yw Nice(Nissa). Mae Nice wedi ei llysenwi "Brenhines y Riviera".
Fe fydd rhai'n defnyddio'r gair "riviera" hefyd i ddisgrifio unrhyw arfordir tebyg i'r uchod, fel ardal Acapulco yn Mecsico neu arfordir de Cernyw a Dyfnaint.