Robat Gruffudd | |
---|---|
Ganwyd | Robert Paul Griffiths ![]() 27 Chwefror 1943 ![]() Y Rhondda ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd, cyhoeddwr ![]() |
Tad | John Gwyn Griffiths ![]() |
Mam | Kate Bosse-Griffiths ![]() |
Cyhoeddwr ac awdur yw Robat Gruffudd (ganed Robert Paul Griffiths, 27 Chwefror 1943)[1] a sefydlodd wasg Y Lolfa, un o'r gweisg mwyaf dylanwadol yng Nghymru. Mae'n fab i Kate Bosse Griffiths a'r Athro John Gwyn Griffiths, ac yn frawd i Heini Gruffudd.[2][3] Ganed yn 1943 yn y Rhondda, a'i fagu yn Abertawe. Yn 1964 graddiodd yng ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor mewn athroniaeth a seicoleg. Ond gwrthododd dderbyn y radd fel protest yn erbyn gwrthgymreigrwydd awdurdodau'r coleg.[4]