Y Gwir Anrhydeddus Syr Robert Buckland KBE QC MP | |
---|---|
Llun swyddogol, 2020 | |
Ysgrifennydd Gwladol Cymru | |
Mewn swydd 7 Gorffennaf 2022 – 25 Hydref 2022 | |
Prif Weinidog | Boris Johnson Liz Truss |
Rhagflaenwyd gan | Simon Hart |
Dilynwyd gan | David TC Davies |
Gweinidog Gwladol dros Gyfiawnder Arglwydd Ganghellor | |
Mewn swydd 24 Gorffennaf 2019 – 15 Medi 2021 | |
Prif Weinidog | Boris Johnson |
Rhagflaenwyd gan | David Gauke |
Dilynwyd gan | Dominic Raab |
Gweinidog Gwladol dros Garchardai | |
Mewn swydd 9 Mai 2019 – 24 Gorffennaf 2019 | |
Prif Weinidog | Theresa May |
Rhagflaenwyd gan | Rory Stewart |
Dilynwyd gan | Lucy Frazer |
Cyfreithiwr Cyffredinol Lloegr a Chymru | |
Mewn swydd 15 Gorffennaf 2014 – 9 Mai 2019 | |
Prif Weinidog | David Cameron Theresa May |
Rhagflaenwyd gan | Oliver Heald |
Dilynwyd gan | Lucy Frazer |
Aelod Seneddol dros De Swindon | |
Mewn swydd 6 Mai 2010 – 30 Mai 2024 | |
Rhagflaenwyd gan | Anne Snelgrove |
Mwyafrif | 6,625 (13.1%) |
Manylion personol | |
Ganed | Robert James Buckland 22 Medi 1968 Llanelli |
Dinesydd | Prydain |
Plaid gwleidyddol | Ceidwadwyr |
Plant | 2 |
Addysg | Ysgol St Michael, Llanelli |
Alma mater | Inns of Court School of Law Coleg Hatfield, Durham |
Proffesiwn | bargyfreithiwr, cofiadur |
Gwefan | robertbuckland.co.uk parliament..robert-buckland |
Gwleidydd Ceidwadol o Gymro yw Syr Robert James Buckland KBE, QC (ganwyd 22 Medi 1968)[1]. Roedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng Gorffennaf a Hydref 2022. Yn fargyfreithiwr, roedd yn Aelod Seneddol (AS) dros Dde Swindon rhwng 2010 a 2024.[2]
Gwasanaethodd Buckland fel Cyfreithiwr Cyffredinol Cymru a Lloegr o 2014 i 2019, nes iddo ddod yn Weinidog Gwladol dros Garchardai. Fe’i penodwyd yn Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ac Arglwydd Ganghellor gan Boris Johnson ym mis Gorffennaf 2019, gan wasanaethu tan ad-drefnu’r cabinet ym mis Medi 2021.[3] Ef oedd yr ail Arglwydd Ganghellor o Lanelli, ar ôl yr Arglwydd Elwyn-Jones (1974–1979). [4] Ym mis Gorffennaf 2022, fe’i penodwyd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ond cafodd ei olynu gan Simon Hart erbyn yr Hydref.[5] Collodd ei sedd yn Nhŷ'r Cyffredin yn Etholiad Cyffredinol 2024.[2]