Robert Capa

Robert Capa
FfugenwRobert Capa Edit this on Wikidata
GanwydEndre Ernő Friedmann Edit this on Wikidata
22 Hydref 1913 Edit this on Wikidata
Budapest Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mai 1954 Edit this on Wikidata
Thái Bình Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc, Hwngari, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethgohebydd rhyfel, ffotograffydd, ffotografydd rhyfel, ffotonewyddiadurwr, newyddiadurwr, llenor, professional photographer Edit this on Wikidata
Blodeuodd1938 Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Life Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Falling Soldier, The farmer and the soldier (Robert Capa) Edit this on Wikidata
Arddullcelf ffigurol Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadErnest Hemingway Edit this on Wikidata
MudiadRealaeth Edit this on Wikidata
TadDezsö Friedmann Edit this on Wikidata
MamJúlia Edit this on Wikidata
PartnerGerda Taro Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroix de guerre des théâtres d'opérations extérieures, Béla Balázs Award, Medal of Freedom, International Photography Hall of Fame and Museum Edit this on Wikidata

Ffotograffydd rhyfel oedd Robert Capa (22 Hydref 191325 Mai 1954). Fe'i ganed yn Budapest, Hwngari. Roedd ei waith yn cwmpasu pum rhyfel gwahanol gan gynnwys Rhyfel Cartref Sbaen a'r Ail Ryfel Byd.

Daeth yn enwog drwy'r byd yn 1936 am y llun "Falling Soldier/Muerte de un Miliciano" o'r milwr a saethwyd yn ei ben yn syrthio'n farw. Mae amheuaeth ynghylch dilysrwydd y llun erbyn hyn ond erys yn llun eiconig o gyfnod Rhyfel Cartref Sbaen.

Tynnodd ei luniau enwocaf o'r Ail Ryfel Byd ar 6 Mehefin 1944 (D-Day) ar ôl nofio i'r lan gyda'r ail don o filwyr a laniodd ar draeth Omaha. Tynnodd 106 o luniau ond yn dilyn camgymeriad gan aelod o staff yr ystafell dywyll y cylchgrawn Life yn Llundain, dim ond wyth llun a welodd olau dydd.

Yn 1947, ar y cyd â'r ffotograffydd o Ffrainc, Henri Cartier-Bresson ac eraill, sefydlodd Magnum Photos sef yr asiantaeth gydweithredol gyntaf i ffotograffwyr llawrydd ledled y byd.

Bu farw a'i gamera yn ei law ar ôl sefyll ar ffrwydryn tir wrth weithio ar gyfer Life yn Rhyfel Cyntaf Indo-Tsieina yn ne-ddwyrain Asia.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne