Robert Fisk | |
---|---|
Ganwyd | 12 Gorffennaf 1946 Maidstone |
Bu farw | 30 Hydref 2020 o strôc Dulyn |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, hanesydd, llenor, gohebydd rhyfel |
Cyflogwr |
|
Priod | Lara Marlowe, Nelofer Pazira |
Gwobr/au | Jacob's Award, Amnesty International UK Media Award, Amnesty International UK Media Award, Amnesty International UK Media Award, Orwell Prize, Gwobr Diwylliant Rydd Lannan, Martha Gellhorn Prize for Journalism, Honorary doctors of Ghent University, Premi Godó de Periodisme, doethur anrhydeddus Prifysgol St Andrews, James Cameron Memorial Trust Award, Foreign Reporter of the Year, Foreign Reporter of the Year, honorary doctorate of Trinity College, Dublin, Doethur Anrhydeddus Prifysgol Caerhirfryn, honorary doctor of Queen's University Belfast, Doethor Anrhydeddus o Brifysgol Caint, honorary doctorate from the American University of Beirut, Carey McWilliams Award |
Gwefan | http://www.independent.co.uk/opinion/commentators/fisk/ |
Awdur a newyddiadurwr o Loegr oedd Robert Fisk (12 Gorffennaf 1946 – 30 Hydref 2020) a oedd yn ddinesydd Prydeinig a Gwyddelig.[1][2]
Roedd yn ohebydd rhyngwladol a ysgrifennodd am y rhyfeloedd cartref yn Lebanon, Algeria a Syria, Rhyfel Irac ac Iran, y rhyfeloedd yn Bosnia a Cosofo, y Chwyldro Islamaidd yn Iran, ymosodiad Saddam Hussen ar Kuwait, ymosodiad a meddiannaeth Iraq gan yr Unol Daleithiau. Roedd yn rhugl yn Arabeg,[3] ac ymhlith y newyddiadurwyr Gorllewinol prin i gyfweld ag Osama bin Laden, gan wneud hynny deirgwaith rhwng 1993 a 1997.[4][5]
Cychwynnodd ei yrfa ar y Sunday Express. Aeth ymlaen i weithio ar The Times fel gohebydd yng Ngogledd Iwerddon, Portiwgal a'r Dwyrain Canol lle'r oedd wedi ei leoli yn Beirut yn achlysurol ers 1976. Wedi 1989, bu'n gweithio i'r Independent.[6] Enillodd Fisk nifer o wobrau newyddiaduraeth Prydeinig a rhyngwladol, yn cynnwys y wobr Newyddiadurwr Tramor y Flwyddyn saith o weithiau.[1]