Robert Latham Owen | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 2 Chwefror 1856 ![]() Lynchburg ![]() |
Bu farw | 19 Gorffennaf 1947 ![]() Washington ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Cenedl y Tsieroci ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr ![]() |
Swydd | Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau ![]() |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd ![]() |
Tad | Robert L. Owen Sr. ![]() |
Mam | Narcissa Chisholm Owen ![]() |
Gwleidydd o'r Unol Daleithiau o'r Blaid Ddemocrataidd oedd Robert Latham Owen (2 Chwefror 1856 – 19 Gorffennaf 1947). Roedd ef yn un o'r ddau seneddwr cyntaf o Oklahoma, yr Unol Daleithiau a gwasanaethodd yn y Senedd rhwng 1907 a 1925.
Cafodd ei eni i deulu cefnog yn Lynchburg, Virginia, yn fab i lywydd cwmni rheilffordd. Er y cyfoeth cychwynnol, dirywiodd pethau, a chollodd y teulu ei ffortiwn o ganlyniad i Banic 1873 a marwolaeth ei dad pan oedd Robert yn ei arddegau.
Ar ochr ei fam, roedd Owen, yn rhanol Tsieroci ac at deulu'i fam y trodd gan ddechrau bywyd newydd fel athro mewn cartref i blant amddifad Tsieroci ac yna fel cyfreithiwr, gweinyddwr a newyddiadurwr. Am gyfnod bu hefyd yn asiant Indiaidd ffederal a sylfaenydd a llywydd cyntaf banc cymunedol. Ymhlith y llwyddiannau a ddaeth ag ef i sylw’r cyhoedd yn ehangach, ac a helpodd i baratoi’r ffordd ar gyfer ei ethol i Senedd yr Unol Daleithiau yn 1907 pan ddaeth Oklahoma (yn ymgorffori’r hen Diriogaeth India) yn dalaith, oedd ei lwyddiant fel cyfreithiwr yn 1906 wrth ennill achos llys ar ran y Tsierocïaid Dwyreiniol yn hawlio iawndal gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau am diroedd dwyreiniol yr oedd y Tsierocïaid wedi'u colli.
Democrat oedd Owen, a bu'n weithgar mewn llawer o achosion blaengar, gan gynnwys ymdrechion i gryfhau rheolaeth gyhoeddus ar lywodraeth, a'r frwydr yn erbyn llafur plant. Heddiw, fe'i cofir yn arbennig fel noddwr Seneddol y Ddeddf Gronfa Ffederal Glass-Owen 1913, a greodd y Gronfa Ffederal genedlaethol. Mewn trafodaethau ar y pryd, gwrthwynebodd ymgyrch i roi’r Gronfa Ffederal (neu'r 'Ffed') yn ffurfiol o dan reolaeth y diwydiant bancio, a daeth Deddf 1913 i’r amlwg yn fras yn unol â chyfaddawd Owen, sef creu Bwrdd y Gronfa Ffederal canolog a enwebwyd gan y Llywodraeth ochr yn ochr â deuddeg Banc Ffederal Rhanbarthol, gyda'r mwyafrif ohonynt yn fanciau enfawr.
Yn dilyn hyn, daeth Owen yn feirniadol iawn o'r hyn a welai fel gogwydd y Gronfa Ffederal tuag at bolisïau datchwyddiant yn ystod y 1920au cynnar ac eto yn y 1930au cynnar, a briodolodd i ddylanwad gormodol y banciau mwyaf ar y Ffed. Nododd mai'r dylanwad hwn oedd yn bennaf gyfrifol am achosi’r Dirwasgiad Mawr: barn leiafrifol ar y pryd, ond un sydd, yn y degawdau diwethaf, wedi ennill derbyniad eang ymhlith economegwyr ceidwadol. Ym 1920 roedd Owen yn aflwyddiannus yn ei ymgais i gael ei enwebu gan y Blaid Ddemocrataidd ar gyfer arlywyddiaeth UDA.