Robert Ferrar | |
---|---|
Ganwyd | 1500s |
Bu farw | 30 Mawrth 1555 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | esgob Catholig, offeiriad Catholig |
Swydd | Esgob Sodor a Manaw, Esgob Pabyddol Ty Ddewi, Esgob Tyddewi |
Esgob Tyddewi rhwng 1548 a'i losgi wrth y stanc ym 1555 oedd Robert Ferrar (tua 1504 – 30 Mawrth 1555). Ganed yn Halifax, Swydd Efrog, rywbryd rhwng 1502 a 1505.
Dechreuodd ei yrfa eglwysig ystormus fel Esgob Sodor a Manaw. Yn bleidiwr brwd y Diwygiad Protestannaidd, fe'i penodwyd yn Esgob Tyddewi o dan Edward VI o Loegr ar 9 Medi 1548 diolch i ddylanwad ei noddwyr Thomas Cranmer, Archesgob Caergaint, a Dug Somerset. Fe'i carcharwyd yn ddiweddarach gan Edward VI ar ôl ymrafael rhyngddo a chanoniaid Tyddewi.
Cafodd ei gyhuddo o ddangos gormod o gariad tuag y Cymry, ac yn benodol o danseilio'r Deddfau Uno a waharddai ddefnyddio'r iaith Gymraeg gan unrhyw swyddog o dan Goron Lloegr. Yn ôl ei gyhuddwyr, roedd Ferrar wedi datgan,
Ac yntau'n dal yn y carchar, fe'i cyhuddwyd o heresi gan Mari Tudur, ac, ar ôl gwrthod datgyffesu, fe'i llosgwyd wrth y stanc ar sgwâr y farchnad yng Nghaerfyrddin ar 30 Mawrth 1555. Fe'i olynwyd fel Esgob Tyddewi gan Henry Morgan, gŵr o Sir Benfro, un o'r rhai a gondemniodd Ferrar yn y lle cyntaf.
Ceir carreg goffa i Robert Ferrar, a godwyd yn 1843, ar sgwâr Caerfyrddin. Cynhwysodd y bardd Saesneg Ted Hughes gerdd amdano yn ei gyfrol The Hawk in the Rain.