Robert Recorde | |
---|---|
Ganwyd | c. 1510 Dinbych-y-pysgod |
Bu farw | 1558 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | mathemategydd, meddyg, athronydd |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | The Whetstone of Witte, The Ground of Arts, The Castle of Knowledge |
Mathemategydd a meddyg o Gymru oedd Robert Recorde (tua 1512 – 1558). Ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r hafalnod '=', a hynny yn 1557. Ef hefyd oedd y cyntaf i gyflwyno'r symbol 'adio' neu 'plws' (+) i siaradwyr Saesneg, hefyd yn 1557.[1][2][3][4][5]
Fe'i ganwyd i deulu parchus yn Ninbych-y-Pysgod, Sir Benfro, ac fe aeth ymlaen i astudio ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.[6]
Ymgartrefodd yn Llundain fel meddyg a dywedir fod y brenin a'r frenhines ymhlith ei gleifion. Cafodd ei benodi'n bennaeth y bathdy ym Mryste yn 1549. Roedd yn gyfaill i'r mathemategydd, alcemydd ac athronydd Cymreig John Dee.
Bu farw yng Ngharchar Mainc y Brenin yn Southwark, wedi iddo fynd i ddyled.