![]() | |
Enghraifft o: | locomotif stêm â thendar ![]() |
---|---|
Deunydd | pres, haearn, pren pîn, dur ![]() |
Màs | 4.318 tunnell, 3,000 cilogram ![]() |
Gwlad | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Rhan o | Treialon Rainhill, damwain Parkside ![]() |
Lleoliad | Science and Industry Museum ![]() |
Perchennog | Yr Amgueddfa Wyddoniaeth ![]() |
Lled y cledrau | 1435 mm ![]() |
Gweithredwr | Rheilffordd Lerpwl a Manceinion ![]() |
Gwneuthurwr | Robert Stephenson a'i Gwmni ![]() |
Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig ![]() |
![]() |
Locomotif stêm a ddyluniwyd gan Robert Stephenson ac adeiladwyd gan ei gwmni yn Newcastle upon Tyne yn 1829 oedd Rocket. Y locomotif oedd enillydd Treialon Rainhill, a gynhaliwyd yn Hydref 1829 i ddangos y byddai locomotifau'n ddull effeithiol o symud cerbydau (yn hytrach na pheiriannau ager sefydlog).[1]
Er nad Rocket oedd y locomotif stêm cyntaf o bell ffordd, roedd yn ymgorffori nifer o ddatblygiadau arloesol a oedd ymhell o flaen ei ragflaenwyr. Daeth yn batrymlun ar gyfer y rhan fwyaf o beiriannau stêm yn y 150 mlynedd dilynol.[2]
Ers 2023, mae Rocket wedi'i arddangos yn Amgueddfa Locomotion, Shildon, Swydd Durham.