Seiclwr proffesiynol Saesneg ydy Roger Hammond (ganed 30 Ionawr 1974 yn Harlington), sy'n arbennigo mewn rasio cyclo-cross a ffordd. Tyfodd Hammond i fynnu yn ardal Chalfont St Peter yn Swydd Buckingham a mynychodd Ysgol Ramadeg Dr Challoner yn ei arddegau.[1] Cystadlodd yng Ngemau Olympaidd 1998 yn Kuala Lumpur ac yn 2002 ym Manceinion. Ef oedd pencampwr ffordd Prydeinig yn 2003 a 2004. Reidiodd drost dîm Tîm Seiclo Pro Discovery Channel yn 2005 a 2006. Eleni mae'n reidio i Dîm T-Mobile. Yn ras Tour of Britain 2005 a 2006, cystadlodd Hammond drost dîm Prydain Fawr, gan na gymerodd ei dîm, Discovery Channel, ran.