![]() | ||
Gwlad | ![]() | |
Cartref | Wollerau, y Swistir | |
Dyddiad Geni | 8 Awst 1981 | |
Lleoliad Geni | Binningen, y Swistir | |
Taldra | 1.85 m | |
Pwysau | 85 kg | |
Aeth yn broffesiynol | 1998 | |
Ffurf chwarae | Dde; Gwrthlaw unlaw | |
Arian Gwobr Gyrfa | $123,468,993 | |
Senglau | ||
Record Gyrfa: | 1200–263 (82.02%) | |
Teitlau Gyrfa: | 101 | |
Safle uchaf: | 1 (2 Chwefror 2004) | |
Canlyniadau'r Gamp Lawn | ||
Agored Awstralia | enillwr (2004, 2006, 2007, 2010, 2017, 2018) | |
Agored Ffrainc | enillwr (2009) | |
Wimbledon | enillwr (2003, 2004, 2005, 2006, 2007, 2009, 2012, 2017) | |
Agored yr UD | enillwr (2004, 2005, 2006, 2007, 2008) | |
Parau | ||
Record Gyrfa: | 129-89 | |
Teitlau Gyrfa: | 8 | |
Safle uchaf: | 24 (9 Mehefin 2003) | |
Gwybodlen wedi'i diweddaru diwethaf ar: 5 Mai 2019. |
Chwaraewr tenis o'r Swistir, yw Roger Federer (/ˈɹɑ.dʒər ˈfɛ.dər.ər/) (ganwyd 8 Awst, 1981). Cred llawer y gall fod y chwaraewr gorau erioed.[1][2][3][4][5]
Mae wedi ennill 20 teitl Camp Lawn sengl, 6 teitl Cwpan y Meistri Tenis, a 28 o deitlau Cyfres y Meistri ATP. Yn 2004, ef oedd y cyntaf ers Mats Wilander yn 1988 i ennill y pedwar twrnamaint sengl Camp Lawn i ddynion yn yr un flwyddyn: Pencampwriaeth Agored Awstralia, Wimbledon, Phencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau a Pencampwriaeth Agored Ffrainc. Yn 2006, ailadroddodd y gamp hon, a'r unig ddyn erioed i ailadrodd y gamp yma a'r dyn cyntaf yn yr oes agored i ennill o leiaf deg pencampwriaeth sengl dair blynedd yn ddilynol (2004 i 2006).[6] Ef hefyd yw'r unig chwaraewr sydd wedi ennill teitlau senglau Wimbledon a Phencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau dair mlynedd yn ddilynol (2004 i 2006). Yn 2007, pan enillodd Federer ei drydedd teitl Pencampwriaeth Agored Awstralia, daeth yn unig chwaraewr gwrywaidd i ennill tri thrnamaint Camp Lawn ar wahân tair gwaith.
Mae Federer wedi dal safle uchaf chwaraewyr dethol y byd ers 2 Chwefror, 2004, ac yn dal y record am y mwyaf o wythnosau dilynol fel y chwaraewr gwrywol gyda'r safle uchaf.[7] Ar 2 Ebrill, 2007, cafodd ei enwi fel Chwaraewr Byd-eang Laureus y Flwyddyn am drydedd dro dilynol, sef record. Ar 8 Gorffennaf, 2012, enillodd Wimbledon am y saithfed tro, ac felly daeth i ddal record hafal â Pete Sampras.