Ronnie Biggs | |
---|---|
Ganwyd | 8 Awst 1929 Lambeth |
Bu farw | 18 Rhagfyr 2013 o strôc Barnet |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | gwaith y saer, hunangofiannydd, lleidr, canwr, sgriptiwr |
Plant | Chris Brent, Michael Biggs |
Lleidr o Sais oedd Ronald Arthur Biggs (8 Awst 1929 – 18 Rhagfyr 2013) oedd yn un o'r criw o 15 o ladron yn y Lladrad Trên Mawr ar 8 Awst 1963, gan ddwyn £2.6 miliwn. Cafodd Biggs cyfran o £147,000. Cafwyd yn euog o ysbeiliad arfog a fe'i ddedfrydwyd ar 15 Ebrill 1964 i garchar am 30 mlynedd. Ar 8 Gorffennaf 1965 dihangodd o Garchar Wandsworth a wnaeth ffoi i Awstralia gyda'i deulu. Wrth i'r heddlu nesu yn ei chwiliad amdano, symudodd Biggs ar ei hun i Rio de Janeiro ym Mrasil. Ni lwyddodd yr awdurdodau Prydeinig i'w estraddodi, ond dychwelodd Biggs i'r Deyrnas Unedig ar liwt ei hunan yn 2001 a chafodd ei arestio a'i garcharu. Cafodd ei ryddhau yn 2009 am resymau iechyd, a bu farw yn 84 oed yn 2013.[1]