![]() | |
![]() | |
Math | cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 3,318 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Joseph Seité ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 6.19 km² ![]() |
Uwch y môr | 6 metr, 0 metr, 58 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Kastell-Paol, Santeg ![]() |
Cyfesurynnau | 48.7267°N 3.9858°W ![]() |
Cod post | 29680 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Rosko ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Joseph Seité ![]() |
![]() | |
Porthladd yng ngorllewin Llydaw yw Rosko (Ffrangeg: Roscoff). Saif yn département Penn-ar-Bed (Finisterre). Mae'n ffinio gyda Kastell-Paol, Santec ac mae ganddi boblogaeth o tua 3,318 (1 Ionawr 2022). Roedd y boblogaeth yn 2012 yn 3,515. Mae ynys fechan Enez Vaz (Île-de-Batz) gerllaw.
Cytunodd Llywodraeth Ffrainc i ddarparu porthladd i longau mawr yn Rosko yn 1968, wedi pwysau gan arweinwyr economaidd lleol, yn arbennig Alexis Gourvennec. Sefydlodd Gourvennec ac eraill gwmni Brittany Ferries i redeg gwasanaeth rhwng Rosko a Plymouth yn Lloegr. Yn yr haf, ceir cysylltiad â Ros Láir yn Iwerddon hefyd.
Rosko a'r ardal o'i chwmpas oedd cartref traddodiadol y Sioni Winwns.