Rowan Williams | |
---|---|
Ganwyd | Rowan Douglas Williams 14 Mehefin 1950 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | diwinydd, gwleidydd, athro cadeiriol, offeiriad Anglicanaidd, bardd, archesgob |
Swydd | Archesgob Caergaint, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, beirniad Gwobr Booker, Archesgob Cymru, Bishop of Monmouth, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Cyflogwr | |
Priod | Jane Williams |
Plant | Rhiannon Williams, Pip Williams |
Gwobr/au | Cymrawd yr Academi Brydeinig, Urdd Cyfeillgarwch, Cadwen Frenhinol Victoria, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Medal y Llywydd, prix Giles, Order of Bethlehem |
llofnod | |
Esgob, diwynydd a bardd o Gymru yw Dr Rowan Douglas Williams, Arglwydd Williams o Ystumllwynarth (ganwyd 14 Mehefin 1950). Roedd yn Archesgob Caergaint rhwng Rhagfyr 2002 a Rhagfyr 2012.
Fe'i ganwyd yn Abertawe, yn fab i deulu Cymraeg. Cafodd ei addysg yn Ysgol Dinefwr, Abertawe, yng Ngoleg Crist, Caergrawnt, a Choleg Eglwys Crist a Coleg Wadham, Rhydychen, lle y cafodd ei ddoethuriaeth. Bu'n dysgu diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caergrawnt.
Daeth yn Esgob Mynwy yn 1991, ac yn Archesgob Cymru yn 1999. Yn 2002 cyhoeddwyd ei fod i ddilyn George Carey fel Archesgob Caergaint, yn Eglwys Loegr, ac felly yn arweinydd y Gymuned Anglicanaidd fyd-eang, er yn dechnegol, nid oedd yn aelod o Eglwys Loegr, gan fod yr Eglwys yng Nghymru wedi ei datgysylltu. Fe'i urddwyd ar yr 27 Chwefror 2003 a bu yn y swydd rhwng Rhagfyr 2002 a Rhagfyr 2012.[1][2]
Mae ef hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Cafodd ei dderbyn yn swyddogol i Dŷ'r Arglwyddi ar 14 Ionawr 2013. Roedd eisoes wedi eistedd fel un o'r Arglwyddi Ysbrydol, 26 o Esgobion Eglwys Lloegr sydd â sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Derbyniodd urddolaeth am oes wedi ei ymddeoliad fel Archesgob Caergaint.[3]