Rudbaxton

Rudbaxton
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,191 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8°N 5°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000952 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/au y DUHenry Tufnell (Llafur)
Map

Pentref, cymuned a phlwyf sifil yn Sir Benfro, Cymru, yw Rudbaxton.[1] Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif ychydig i'r gogledd o dref Hwlffordd ac i'r dwyrain o'r briffordd A40.

Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio or 11g, i Sant Mihangel. Bu William Laud yn rheithor yma pan oedd yn Esgob Tyddewi.

Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Crundale a Poyston Cross. Ganed y cadfridog Thomas Picton yn Poyston Hall. Roedd poblogaeth y gymuned yn 1,062 yn 2001.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[3]


  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
  3. Gwefan Senedd y DU

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne