Rudolf Hilferding

Rudolf Hilferding
Ganwyd10 Awst 1877 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw11 Chwefror 1941 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstria, Gweriniaeth Weimar Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaetheconomegydd, gwleidydd, llenor, meddyg Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Reichstag Gweriniaeth Weimar, Reich Minister of Finance, Reich Minister of Finance Edit this on Wikidata
Adnabyddus amFinance Capital Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen, Plaid Sosialaidd Ddemocrataidd Annibynnol yr Almaen, Plaid Ddemocrataidd, Sosialaidd Awstria Edit this on Wikidata
PriodMargarete Hilferding, Rose Hilferding Edit this on Wikidata
PlantPeter Milford-Hilferding, Karl Hilferding Edit this on Wikidata

Gwleidydd Awstriaidd-Almaenig oedd Rudolf Hilferding (10 Awst 1877Chwefror 1941) a oedd yn un o ladmeryddion Awstro-Farcsiaeth. Gwasanaethodd yn swydd gweinidog ariannol yr Almaen ym 1923 ac ym 1928.

Ganed yn Fienna, Awstria-Hwngari, i deulu Iddewig rhyddfrydol. Astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Fienna, ac yno cyfarfu â nifer o sosialwyr a Marcswyr, gan gynnwys Otto Bauer, Karl Kautsky, ac August Bebel. Ym 1906 cafodd Hilferding waith mewn ysgol hyfforddi dan nawdd Plaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yr Almaen (SPD) ym Merlin.[1]

Hilferding oedd awdur y gyfrol gyntaf – Böhm-Bawerks Marx-Kritik (1904) – yng nghyfres Marx Studien (1904–22) yr Awstro-Farcswyr. Ei brif waith yw Das Finanzkapital (1910), sydd yn trafod rôl y bancwyr a'r arianwyr mewn imperialaeth economaidd a rhyfel. Hilferding oedd golygydd gwleidyddol Vorwärts, prif gylchgrawn yr SPD, o 1907 i 1915. Cafodd ei alw i'r fyddin Awstriaidd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a gwasanaethodd yn feddyg ar ffrynt yr Alpau. Derbyniodd ddinasyddiaeth Almaenig ym 1920. Am gyfnod bu'n olygydd Die Freiheit, cylchgrawn y Democratiaid Cymdeithasol Annibynnol.[1]

Gwasanaethodd yn ddirprwy yn y Reichstag o 1924 nes i Adolf Hitler esgyn i rym ym 1933. Ffoes Hilferding o'r Almaen Natsïaidd, ac ym 1934 sefydlodd gynllun ar gyfer sosialwyr Almaenig alltud.[1] Cafodd ei arestio gan awdurdodau Vichy ym 1940 a'i drosglwyddo i'r Gestapo. Bu farw yn y ddalfa ym Mharis yn 63 oed.

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Rudolf Hilferding. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Hydref 2020.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne