Math | vihara, Tibetan Buddhist monastery |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | East Sikkim district |
Gwlad | India |
Cyfesurynnau | 27.2886°N 88.5614°E, 27.33194°N 88.60194°E |
Crefydd/Enwad | Kagyupa |
Mae Rumtek yn fynachlog (Rumtek Gompa) a phentref ym mryniau Sikkim, tua 24 km o Gangtok ar ochr orllewinol Dyffryn Ranipul.
Sefydlwyd mynachlog Rumtek yn 1717 yn ystod teyrnasiad pedwerydd chogyal Sikkim, Gyurmed Namgyal, a gyflwynodd dir helaeth i'w chynnal. Fe'i hailadeiladwyd ar ei safle presennol rhwng 1961 a 1966, yn yr arddull Tibetaidd traddodiadol, gan yr unfed Gyalwar Karmapa ar bymtheg, Rangjung Rigpe Dorje, ar ôl iddo a'i ddilynwyr ffoi o Dibet yn 1959 yn sgîl goresgyniad y wlad gan fyddin Tsieina.
Mae Rumtek Gompa yn le pwysig iawn ym Mwdhaeth Tibet am ei bod yn gartref i'r Gyalwar Karmapa, pennaeth ysbrydol urdd y Kagyupa, a sefydlwyd yn yr 11g gan Lama Marpa, disgybl y gwrw Indiaidd Naropa.
Er ei fod yn adeilad lled ddiweddar mae'r fynachlog yn drysorfa o luniau a chreiriau Tibetaidd.