Math | tref, ardal ddi-blwyf, tref newydd |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Halton |
Poblogaeth | 61,789 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaer (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Gerllaw | Afon Merswy |
Cyfesurynnau | 53.3419°N 2.7336°W |
Cod OS | SJ525815 |
Cod post | WA7 |
Tref fawr yn sir seremonïol Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Runcorn.[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf yn awdurdod unedol Bwrdeistref Halton. Saif ar lan aber Afon Merswy gyferbyn i Widnes, tua 8 milltir i'r de-orllewin o Warrington. Llifa Afon Weaver i aber Merswy ger y dref.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Runcorn boblogaeth o 61,789.[2]
Mae Caerdydd 207.8 km i ffwrdd o Runcorn ac mae Llundain yn 268.4 km. Y ddinas agosaf ydy Lerpwl sy'n 18 km i ffwrdd.
Mae'n adnabyddus fel canolfan cludiant. Ceir pen gorllewinol Camlas Manceinion (Manchester Ship Canal) ger y dref a gorsaf reilffordd. Ceir sawl ffordd fawr yno, yn cynnwys yr M56 sy'n mynd heibio i'r de. Mae'n ganolfan ddiwydiannol hefyd.
Ceir sawl pentref hanesyddol sy'n rhan o ardal drefol Runcorn erbyn heddiw, yn cynnwys Halton a Norton lle ceir Priordy Norton.