Ruth Jones | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Vanessa Jenkins ![]() |
Ganwyd | 22 Medi 1966 ![]() Pen-y-bont ar Ogwr ![]() |
Man preswyl | Caerdydd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, sgriptiwr, llenor, awdur teledu, cynhyrchydd teledu ![]() |
Gwobr/au | MBE ![]() |
Actores ac awdures o Gymru yw Ruth Alexandra Elizabeth Jones MBE (ganwyd 22 Medi 1966). Mae'n adnabyddus am gyd-ysgrifennu ac am actio yn y comedi teledu Gavin & Stacey a enillodd nifer o wobrau. Mae hi hefyd yn enwog am ei pherfformiadau yn 'Little Britain' ac yn 'Nighty Night'.
Mae ganddi'r brif rhan yn y gyfres ddrama gomedi Stella ar Sky 1 sy'n cael ei chynhyrchu gan Tidy, y cwmni a gyd-sefydlwyd ganddi yn 2008 gyda'i gŵr, David Peet, sydd yn reolwr-gyfarwyddwr.
Bu'n dysgu Cymraeg yn anffurfiol dros y blynyddoedd ac yn Ionawr 2020 ymddangosodd mewn golygfa ym Mhobol y Cwm fel her sy'n rhan o gyfres Iaith ar Daith ar S4C.[1]