Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 31,190 |
Daearyddiaeth | |
Sir | De Swydd Lanark |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 55.828°N 4.224°W |
Cod SYG | S19000525 |
Cod OS | NS607617 |
Cod post | G73 |
Tref yn Ne Swydd Lanark, yr Alban, yw Rutherglen[1] (Gaeleg: An Ruadh-Ghleann;[2] Sgoteg: Ruglen).
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y dref boblogaeth o 31,400.[3]
Arferai Rutherglen fod yn ganolfan diwydiant trwm, ac roedd ganddo draddodiad cloddio glo a ddaeth i ben erbyn 1950. Cynhyrchodd J&J White's Chemical Works (ACC Chrome & Chemicals yn ddiweddarach), a oedd yn gweithredu rhwng 1820 a 1967, fwy na 70 y cant o cynhyrchion cromad y DU. Heddiw mae etifeddiaeth sylweddol o wastraff cromiwm hydawdd yn yr ardal. Maestref noswylio Glasgow yw Rutherglen, fel y mwyafrif o'r trefi eraill sy'n amgylchynu'r ddinas.