Safle bws

Bws a Bwsfa TrawsCymru, Aberystwyth
Bwsfa 'TrawsCymru', Aberystwyth, 2019

Mae safle bws yn fan dynodedig lle mae bysiau'n stopio i deithwyr fynd ar fws neu adael bws. Gelwyr hefyd yn arhosfa bws, gorsaf bysiau a bwsfa. Mae adeiladu arosfannau bysiau yn tueddu i adlewyrchu lefel y defnydd, lle gall arosfannau mewn lleoliadau prysur gael llochesi, seddau, ac o bosibl systemau gwybodaeth i deithwyr; gall arosfannau llai prysur ddefnyddio polyn a baner syml i nodi'r lleoliad. Mewn rhai lleoliadau, mae arosfannau bysiau wedi'u clystyru gyda'i gilydd yn ganolfannau trafnidiaeth sy'n caniatáu cyfnewid rhwng llwybrau o arosfannau cyfagos a dulliau trafnidiaeth gyhoeddus eraill i wneud y mwyaf o'r cyfleustra.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne