Safle sy'n cael ei ddefnyddio gan ddau berson yw safle rhyw pan maen nhw'n cael cyfathrach rywiol neu weithgareddau rhywiol arall. Er bod cyfathrach rywiol yn cynnwys treiddiad rhywiol fel arfer, neu gyffroi organau rhywiol rhywun arall, nid oes rhaid i safle rhyw gynnwys treiddiad neu gyffroad. Ymarferir tri chategori o gyfathrach rywiol fel arfer: cyfathrach wain, sy'n cynnwys treiddio'r wain gyda phidyn neu offeryn arall, rhyw geneuol (y genau, y ceg), sy'n cynnwys cyffroi'r pidyn, gwain, neu anws gyda'r geg neu/a'r tafod; a rhyw rhefrol, sy'n cynnwys rhoi pidyn neu offeryn i mewn i'r anws.[1] Gellid hefyd defnyddio'r bysedd neu ddwylo neu wneud cyd-fastyrbio megis gafael y pidyn a/neu'r ceilliau a'i rhwbio. Gellid defnyddio nifer o safleoedd rhyw wrth wneud cyfathrach wain, rhyw geneuol, neu ryw rhefrol, gan greu bron rhif di-ben-draw o safleoedd rhyw o ganlyniad.