Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 732, 557 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,276.03 ha |
Cyfesurynnau | 51.4057°N 3.5306°W |
Cod SYG | W04000670 |
Cod post | CF61 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au y DU | Alun Cairns (Ceidwadwr) |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Sain Dunwyd[1] (Saesneg: St Donats[2] neu English St Donats). Fe'i gelwir weithiau yn English St Donat's am fod eglwys arall gysegredig i Sant Dunwyd yn y Fro, sef Llanddunwyd (Welsh St Donat's), ger Y Bont-faen. Roedd Dunwyd yn gyfaill i Sant Cadog. Saif Yr As Fawr (Monknash) gerllaw, enw sy'n dyddio'n ôl i 1670.
Lleolir y pentref fymryn i'r gorllewin o dref fechan Llanilltud Fawr. Mae plwyf Sain Dunwyd yn cynnwys pentref Marcroes (Marcross).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[4]