![]() | |
Math | cymuned, dinas fawr, commune nouvelle ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Eglwys Gadeiriol Saint-Denis ![]() |
Poblogaeth | 148,907 ![]() |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Gera, Córdoba, Porto Alegre, Sesto San Giovanni, Dinas Gaza, Tuzla, Nasareth, Karakoro, Tiznit, Tulkarm, Djélébou ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Seine-Saint-Denis, arrondissement of Saint-Denis, Seine-Saint-Denis, Grand Paris ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 15.77 km² ![]() |
Gerllaw | Afon Seine, Canal Saint-Denis ![]() |
Yn ffinio gyda | Paris, Aubervilliers, Épinay-sur-Seine, Saint-Ouen-sur-Seine, La Courneuve, Sarcelles, Stains, Villetaneuse, L'Île-Saint-Denis, Montmagny ![]() |
Cyfesurynnau | 48.9356°N 2.3539°E ![]() |
![]() | |
Commune yn Ffrainc ac un o faesdrefi Paris yw Saint-Denis. Saif tua 5 km i'r gogledd o ddinas Paris ei hun, yn département Seine-Saint-Denis, ac roedd y boblogaeth yn 1999 yn 85.832.
Enwyd Saint-Denis ar ôl Sant Denis neu Dionysius, a ferthyrwyd tua 250 ym Mharis, ar y safle a elwir yn awr yn Montmartre. Yn y fan lle claddwyd ef, adeiladodd Dagobert I, brenin y Ffranciaid, abaty, a dyfodd i fod yn bwysig dan yr Abad Suger o 1120 ymlaen. Claddwyd y rhan fwyaf o frenhinoedd Ffrainc ym Masilica Sant Denis yma.
Tyfodd Saint-Denis yn gyflym fel canolfan ddiwydiannol yn y 19g, ond gyda machlud llawer o'r diwydiannau hyn yn yr 20g tyfodd problemau economaidd. Yn 1998, adeiladwyd y stadiwn rygbi cenedlaethol, Stade de France, yma.