Salem (y llun)

Salem
Salem (1908).
ArlunyddSydney Curnow Vosper
Blwyddyn1908
MeunyddDyfrlliw ar bapur
Maint77 cm × 53 cm ×  (30 mod × 21 mod)
LleoliadOriel Gelf yr Arglwyddes Lever, Cilgwri

Darlun a baentiwyd gan Sydney Curnow Vosper ym 1908 yw Salem. Rhoddwyd y teitl Salem ar y llun gan mai golygfa o Gapel Salem, ym Mhentre Gwynfryn ydyw – tua milltir i'r dwyrain o Lanbedr wrth gymer Afon Artro ac Afon Cwmnantcol.

Mae'n ddarlun gan Sydney Curnow Vosper RWS, RWA (29 Hydref 1866 – 10 Gorffennaf 1942) o Siân Owen (1837–1927) o Dy’n-y-fawnog[1] yn eistedd yn y capel yn ei siôl Gymreig. Cred rhai eu bod yn medru gweld llun y Diafol ym mhlygiadau'r siôl. Mae paentiad Capel Salem i'w gweld heddiw yn Oriel Gelf yr Arglwyddes Lever (Lady Lever Art Gallery) yn Port Sunlight, Cilgwri, Lloegr.

Daeth y llun yn boblogaidd oherwydd y cysylltiad â sebon. Prynwyd y llun yn 1909 gan y diwydiannwr William Hesketh Lever am 100 gini. Defnyddiwyd y llun i hyrwyddo "Sunlight Soap". Daeth tocyn bychan am ddim gyda phob bar o sebon a gellid cyfnewid y tocynnau hyn am gopi o'r llun iawn[2] ac effaith hyn, wrth gwrs, oedd i lawer iawn o gartrefi dderbyn copi o'r llun – y llun cyntaf yn y rhan fwyaf o gartrefi.

  1. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (2008), s.v. "Salem"
  2. Gower, Jon (23 May 2002). "Salem exhibition visits castle". BBC.co.uk. Cyrchwyd 16 Hydref 2010.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne