Enghraifft o: | tacson |
---|---|
Safle tacson | genws |
Rhiant dacson | Enterobacteriaceae |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae salmonela /ˌsælməˈnɛlə/ yn fath o bacteria siâp gwialen (basilws) sy'n aelod o'r teulu Enterobacteriaceae. Y ddwy rywogaeth o Salmonela yw Salmonela enterica a Salmonela bongori. Salmonela enterica yw'r rhywogaeth math, a caiff ei rannu i chwe is-rywogaeth sy'n cynnwys dros 2,500 o seroteipiau.
Mae Salmonella yn rywogaeth nad yw'n ffurfio sborau, sef motile enterobacteria yn bennaf gyda diamedrau celloedd rhwng oddeutu 0.7 a 1.5 µm, a hyd rhwng 2 a 5 µm, a peritrichous flagella (o amgylch corff y cell i gyd).[1] Chemotroffau ydynt, sy'n cael eu hegni o adweithiau rhydwythiad ocsidiad drwy ddefnyddio ffynonellau organig. Maent hefyd yn anaeorbau goddefol, sy'n gallu cynhyrchu ATP gydag ocsigen ("yn aerobig") pan mae ar gael; neu phan nad oes ocsigen ar gael, drwy ddefnyddio derbynwyr neu eplesu ("yn anaerobig"). Caiff yr is-rywogaeth S. enterica eu canfod ar draws y byd ym mhob anifail gwaed cynnes ac yn yr amgylchedd. Mae S. bongori wedi'i gyfyngu i anifeiliaid gwaed oer, yn arbennig ymlusgiaid.[2]
Mae rhywogaethau Salmonela yn bathogenau mewngellol:[3] mae rhai seroteipiau'n achosi salwch. Gall seroteipiau nad ydynt yn deiffoidaidd gael eu trosglwyddo o anifeiliaid i bobl ac o bobl i bobl. Maent gan amlaf yn effeithio ar y coluddion yn unig, ac yn achosi gwenwyn bwyd Salmonela; mae'r symptomau yn mynd heb unrhyw wrthfiotigau. Fodd bynnag, yng ngweldydd Affrica is y Sahara gallant achosi clefyd parateiffoid, sydd angen triniaeth frys gyda gwrthfiotigau. Gall seroteipiau teiffoidaidd dim ond cael eu trosglwyddo rhwng pobl, a gallant achosi gwenwyn bwyd Salmonela, clefyd teiffoid a chlefyd parateiffoid.[4] Mae clefyd Teiffoid yn digwydd pan fo Salmonela yn cyrraedd y gwaed - y ffurf teiffoidaidd; neu yn ogystal yn lledaenu drwy'r corff, yn effeithio ar yr organnau, ac yn dangos endotocsinau - y ffurf septig. Gall hyn arwain at sioc hypofolemig a sioc septig, a all arwain at farwolaeth, ac mae angen gofal dwys gan gynnwys gwrthfiotigau.