Enghraifft o: | symptom neu arwydd, complications of pregnancy ![]() |
---|---|
Math | Symptoms and discomforts of pregnancy, cyfog ![]() |
![]() |
Mae salwch bore, a elwir hefyd yn cyfogi a chwydu cyfnod beichiogrwydd (NVP), yn symptom sy'n deillio o feichiogrwydd. Er gwaetha'r enw, gall y symptomau fwrw unigolion yn ystod unrhyw adeg o'r dydd. Yn y rhan fwyaf o achosion gwêl y sgil-effeithiau'n datblygu rhwng y bedwaredd wythnos a'r unfed wythnos ar bymtheg. Mae oddeutu 10% o fenywod yn parhau i ddioddef y cyflwr wedi'r cyfnod ugain wythnos. Cyfeirir at ffurf ddifrifol y cyflwr fel hyperemesis gravidarum, sy'n achosi i rywun golli pwysau.[1][2]
Nid yw'r hyn sy'n achosi salwch bore'n hysbys, ond ceir cysylltiad posib rhwng y cyflwr â newidiadau yn lefelau'r hormonau gonadotroffin cronig ddynol.[3] Dadleua rhai ei fod yn ddefnyddiol o safbwynt esblygiadol. Ni ddylid cynnig diagnosis heb ystyriaeth lawn o gyflyrau eraill. Fel arfer, nid yw dioddefwr salwch bore yn profi poen yn yr abdomen, twymyn neu gur pen.
Gellir lleihau'r risg o ddatblygu cyflwr salwch bore drwy gymryd fitaminau cynenedigol. Efallai na fydd angen triniaeth benodol ar ddioddefwyr yn gyffredinol, ac eithrio'r dull o symleiddio diet. Os bydd triniaeth yn angenrheidiol, fel arfer argymhellir cyfuniad o docsylamin a phyridocsin.[4] Mae tystiolaeth gyfyngedig wedi arddangos defnyddioldeb sinsir wrth drin y cyflwr.[5] Gellir defnyddio methylprednisolone er mwyn gwella achosion difrifol. Rhaid gosod tiwbiau bwydo o amgylch rhai dioddefwyr sy'n dangos tueddiad i golli pwysau.
Mae salwch bore yn effeithio ar oddeutu 70-80% o fenywod beichiog mewn rhyw fodd neu'i gilydd [6] ac mae tua 60% yn dioddef symptomau chwydu. Effeithia hyperemesis gravidarum ar oddeutu 1.6% o fenywod. Yn gyffredinol, nid yw achosion cymedrol na difrifol yn effeithio ar y babi. Mae rhai yn dewis cael erthyliad oherwydd difrifoldeb eu symptomau mewn achosion eithriadol.
|deadurl=
ignored (help)