Sam Houston | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mawrth 1793 Lexington, Rockbridge County |
Bu farw | 26 Gorffennaf 1863 Huntsville |
Man preswyl | Woodland |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Gweriniaeth Texas |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr |
Swydd | Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Llywodraethwr Texas, President of the Republic of Texas, Governor of Tennessee, President of the Republic of Texas, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | Maj. Samuel Houston |
Priod | Margaret Lea Houston, Dianna Rogers |
Plant | Temple Lea Houston, Andrew Jackson Houston, Nancy "Nannie" Elizabeth Morrow, Sam Houston, Jr. |
llofnod | |
Gwladweinydd, gwleidydd a milwr Americanaidd o'r 19g oedd Samuel Houston (2 Mawrth 1793 – 22 Gorffennaf 1863). Arweiniodd Texas i annibyniaeth ym mrwydr San Jacinto a daeth yn arlywydd cyntaf Gweriniaeth Texas.
Fe'i ganwyd yn Timber Ridge yng Nghwm Shenandoah, Virginia, yn bumed mab i Major Samuel Houston, linach Sgotig Ulster, a'i wraig Elizabeth Paxton. Ar ôl marwolaeth ei dad ym 1807, symudodd y teulu i Tennessee ddwyreiniol. Ymladdodd Sam Houston yn y Rhyfel 1812 ble cyfarfu'r mentor Andrew Jackson. Astudiodd yn swyddfa yn Nashville a daeth yn gyfreithiwr yn Lebanon, Tennessee. Ym 1827, cafodd Houston ei ethol yn Llywodraethwr Tennessee. Fe briododd Eliza Allen, 19 oed, o Gallatin, Tennessee ar 22 Ionawr 1829, ond daeth y briodas i ben yn fuan wedyn. Aeth Houston i'r gorllewin i fyw gyda'r Cherokee yn Nhiriogaeth Arkansas gan briodi un ohonynt, Tiana Rogers.
Aeth Houston i Texas Mecsicanaidd yn Rhagfyr 1832. Derbyniodd Texas annibyniaeth o Mecsico ar 2 Mawrth 1836. Arweiniodd fyddin Texian i fuddugoliaeth yn erbyn Byddin Mecsico dan Antonio López de Santa Anna ym mrwydr San Jacinto ar 21 Ebrill 1836. Daeth Houston yn arlywydd cyntaf Gweriniaeth Texas ar 22 Hydref 1836.