Dawns a math o gerddoriaeth o Frasil ydy Samba. Fodd bynnag dechreuodd samba yn Affrica. Caiff ei ystyried yn fyd-eang fel symbol o Frasil a Charnifal Brasil. Ynghyd â Sertanejo, fe'i ystyrir yn un o fynegiannau diwylliannol poblogaidd amlycaf Brasil, ac mae samba bellach yn eicon o hunaniaeth cenedlaethol Brasil.[1][2][3]