Serenissima Repubblica di San Marino | |
Arwyddair | Libertas |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, clofan, gwlad dirgaeedig, Microwladwriaeth, un o wledydd môr y canoldir |
Enwyd ar ôl | Marinus |
Prifddinas | Dinas San Marino |
Poblogaeth | 33,607 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Inno Nazionale della Repubblica |
Cylchfa amser | CET, Europe/San_Marino |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 61.2 km² |
Yn ffinio gyda | yr Eidal, yr Undeb Ewropeaidd |
Cyfesurynnau | 43.933°N 12.467°E |
Cod post | 47890 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Cyngres y Wladwriaeth |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Cyffredinol ac Uwch |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Rhaglyw-gapten |
Pennaeth y wladwriaeth | Francesca Civerchia |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $1,855 million |
Arian | Ewro |
Cyfartaledd plant | 1.26 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.853 |
Mae San Marino neu San Maroin yn swyddogol Gweriniaeth San Marino[1][2] (Eidaleg: Repubblica di San Marino) ac a elwir hefyd yn Weriniaeth Mwyaf Serene San Marino[3] (Eidaleg: Serenissima Repubblica di San Marino), yn ficro-wladwriaeth ac glofan Ewropeaidd yn yr Eidal.[4] Wedi'i lleoli ar ochr ogledd-ddwyreiniol Mynyddoedd Apenninau, hi yw'r bumed wlad leiaf yn y byd,[5] gydag arwynebedd tir ychydig dros 61 metr sg (24 milltir sg).[6] Mae ganddi boblogaeth o oddeutu 33,607 (Awst 2020) sydd tua deg mil yn llai na dinas Wrecsam.
Mae San Marino yn wlad dirgaeedig; fodd bynnag, mae gogledd-ddwyrain y wlad o fewn 10 cilometr (6 mi) i ddinas Eidalaidd Rimini ar arfordir y Môr Adria. Mae prifddinas y wlad, Dinas San Marino, wedi'i lleoli ar ben Monte Titano, a'i anheddiad mwyaf yw Dogana, o fewn bwrdeistref Serravalle. Eidaleg yw iaith swyddogol San Marino.
Daw enw'r wlad o'r Santes Marinus, saer maen o'r ynys Rufeinig Rab yn Croatia heddiw. Yn ôl adroddiadau chwedlonol, cafodd ei eni yn 275 OC, cymerodd ran yn y gwaith o ailadeiladu muriau dinas Rimini ar ôl eu dinistrio gan fôr-ladron Libwraidd, ac yn ddiweddarach sefydlodd gymuned fynachaidd annibynnol ar Monte Titano yn 301 OC. Mae San Marino, felly, yn honni mai hi yw'r wladwriaeth sofran hynaf drwy'r byd, yn ogystal â'r weriniaeth gyfansoddiadol hynaf.[7]
Mae cyfansoddiad San Marino yn mynnu bod yn rhaid i’w deddfwrfa (y Prif Gyngor a’r Cyngor Cyffredinol) a etholir yn ddemocrataidd, ethol dau bennaeth gwladwriaeth bob chwe mis. Cant eu hadnabod fel y ddau Gapten Rhaglaw, maent yn cyd-wasanaethu a chyda phwerau cyfartal.
Mae economi'r wlad yn seiliedig yn bennaf ar gyllid, diwydiant, gwasanaethau, manwerthu a thwristiaeth, fel pob gwlad arall. Mae'n un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd o ran CMC y pen, yn debyg i'r rhanbarthau Ewropeaidd mwyaf datblygedig.[1] Mae'r wlad yn safle 44 yn y Mynegai Datblygiad Dynol.[8]