Sarah Kane | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 3 Chwefror 1971 ![]() Brentwood ![]() |
Bu farw | 20 Chwefror 1999 ![]() o crogi ![]() Llundain, Ysbyty Coleg y Brenin ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | dramodydd, llenor, awdur ![]() |
Adnabyddus am | Blasted, Cleansed, 4.48 Psychosis ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Theatr Ewrop ![]() |
Dramodydd o Loegr oedd Sarah Kane (3 Chwefror 1971 - 20 Chwefror 1999) adnabyddus am ei dramâu sy'n delio â themâu cariad adferadwy ("redemptive love"), chwant rhywiol, poen, artaith — corfforol a seicolegol — a marwolaeth.
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Blasted, Cleansed a 4.48 Psychosis.
Nodweddir ei gwaith gan ddwyster barddonol, cynildeb diorchest, yr ymwchwilio parhaus am ffurf theatraidd newydd ac, yn ei gwaith cynharach, y defnydd o weithgareddau llwyfan eithafol a threisgar. Mae Kane ei hun, yn ogystal ag ysgolheigion fel Graham Saunders, yn nodi dylanwad theatr fynegiannol a thrasiedi Jacobeaidd.[1] Mae'r beirniad llenyddol Aleks Sierz wedi gweld ei gwaith fel rhan o theatr In-Yer-Face, math o ddrama a dorrodd i ffwrdd o gonfensiynau theatr naturiaethol. Mae llyfryddiaeth Kane yn cynnwys pum drama, un ffilm fer (Skin), a dwy erthygl papur newydd ar gyfer The Guardian.[2]