Sarn Badrig

Sarn Badrig
MathRiff Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.8108°N 4.1574°W Edit this on Wikidata
Map
Sarn Badrig, yn edrych allan i'r môr

Sarn neu rîff dan y môr ym Mae Ceredigion yw Sarn Badrig. Mae'n ymestyn tua'r de-orllewin o'r arfordir ger Mochras, gerllaw Llanbedr am tua 24 km. Dim ond ar lanw isel iawn y gellir gweld y sarn, ond gan ei bod yn weddol agos at yr wyneb, mae'n medru bod yn beryglus i gychod. Credir i'r sarn gael ei chreu yn ystod Oes yr Ia, gan rewlif a adawodd weddillion o glai clogfaen. Ceir amrywiaeth o wymon y môr ar y sarn, ac o'r herwydd mae'n Ardal Gadwraeth Arbennig.

Mewn chwedl, Sarn Badrig yw gweddillion y mur a oedd yn gwarchod Cantre'r Gwaelod rhag y môr. Awgryma'r enw gysylltiad a Sant Padrig; y syniad mae'n debyg oedd ei bod yn llwybr a ddefnyddiai ef i gerdded i Iwerddon.

Bu Lewis Morris yn cynnal arolwg o'r ardal. Yn mis Mai, 1742, ysgrifennodd: Have been upon ye Innermost part of Sarn Badrig and have taken many soundings. The more I know it the more terrible it is.

Sarn Badrig yw'r fwyaf o dair sarn ym Mae Ceredigion; y ddwy arall, ymhellach i'r de, yw Sarn-y-Bwch a Sarn Cynfelyn. Ystyrir hwy yn nodweddion tanfor unigryw yn Ynysoedd Prydain.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne