Enghraifft o: | teitl bonheddig, galwedigaeth ![]() |
---|---|
Math | llywodraethwr ![]() |
Enw brodorol | 𐎧𐏁𐏂𐎱𐎠𐎺𐎠 ![]() |
![]() |
Llywodraethwr taleithiol yn yr hen frenhiniaeth Bersiaidd oedd satrap a chanddo awdurdod, cyhyd ag y meddai ffafr y brenin, o'r bron yn unbenaethol. Codai drethi yn ôl ei ewyllys, a gallai efelychu gorthrwm y brenin ei hun heb neb i'w luddias. Pan y dechreuodd brenhiniaeth Cyrus Fawr adfeilio, taflodd rhai o'r satrapiaid yr ychydig deyrngarwch a berthynai iddynt heibio, a sylfaenasant deyrnasoedd annibynnol o'r eiddynt eu hunain, er enghraifft teyrnas Pontus.