Sbaengi

Sbaengi
Enghraifft o:math o gi Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Math o gi hela yw sbaengi (lluosog: sbaengwn; hen derm: 'ysbaengi') neu sbaniel (lluosog: sbanieliaid) sy'n cynnwys nifer o fridiau o gŵn adara a chŵn-gwn. Fel yr awgryma'r gair, mae'n bosibl fod y sbaengi'n frodorol o Sbaen gan mai tarddiad y gair yw'r Ffrangeg Canoloesol espaigneul (Sbaenaidd). Fe'u bridiwyd i'r perwyl o hel ysglyfaeth fel adar allan o lwyni. Erbyn heddiw ceir mathau anwes, deniadol a cheir fersiwn Cymreig ohono, sef y Sbaengi hela Cymreig a oedd am gyfnod bron a darfod o'r tir, ond a gynyddodd yn ei boblogaeth i oddeutu 400 o gŵn erbyn 2010. Ar un cyfnod defnyddiwyd yr enw 'Sbaengi' mewn modd difrïol am Sbaenwr.[1]

Erbyn y 17g, roedd dau fath o frid: rhai'n arbenigo mewn afonydd a llynnoedd ac eraill ar gyfer y llwyni a choedwigoedd. Mae un o fridiau'r grŵp cyntaf, sef y Sbaengi Dŵr Seisnig, bellach yn ddarfodedig, ci a fridiwyd i ddychwelyd at y saethwr gyda'i ysglyfaeth yn ei geg, ond heb ei ddarnio na'i rwygo. Roedd dau fath o Sbaengwn tir: y naill yn arwyddo i'r saethwr union fan yr ysglyfaeth i'w dal gyda rhwydi, a'r llall yn codi'r ysglyfaeth (e.e. ffesantod) er mwyn i'r heliwr ei saethu gyda'i fwa saeth neu ei ddal gyda'i hebog dof. Defnyddiwyd milgwn i hela ysglyfaeth cyflymach e.e. y gwningen.

Yn y 17g, hefyd, newidiwyd rôl y Sbaengi yn sgil datblygiad a phoblogrwydd y gwn callestr i saethu adar. Cofnodwodd Charles Goodhall a Julia Gasow: "Newidiodd y Sbaengi o fod yn gi codi adar, di-hyfforddiant i fod yn gi-gwn llyfn.[2][3]

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru Arlein (GPC);] adalwyd 19 Rhagfyr 2015.
  2. Cyfieithwyd o'r Saesneg gwreiddiol: "transformed from untrained, wild beaters, to smooth, polished gun dogs."
  3. Goodall and Gasow, The New Complete English Springer Spaniel, 1984.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne