Mae pentyrru gwrthrychau (ee caniau bwyd) neu leinio gwrthrychau'n daclus, neu mewn trefn, a hynny dro ar ôl tro, yn gysylltiedig a'r sbectrwm awtistiaeth.
Enghraifft o:
anhwylder niwroddatblygol, anabledd, dosbarth o glefyd
Math
anhwylder datblygiadol hydreiddiol
Mae sbectrwm awtistiaeth yn derm ymbarél sy’n cwmpasu ystod o gyflyrau niwroddatblygiadol y cyfeirir atynt fel anhwylder ar y sbectrwm awtistig (neu yn Saesneg, autism spectrum disorder;ASD). Diffinnir y gair sbectrwm yn y Llawlyfr Diagnostig ac Ystadegol o Anhwylderau Meddyliol i gwmpasu grŵp ehangach o gyflyrau a gwahaniaethau yn y math o symptomau a'u difrifoldeb, tuedd a ddatblygwyd yn y 1980au;[1][2] mae term arall, cyflyrau sbectrwm awtistiaeth wedi'i ddefnyddio gan rai i osgoi negyddiaeth canfyddedig sy'n gysylltiedig â'r gair anhwylder.[3][4]
Mae syndrom Asperger wedi'i gynnwys yn y term anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth. Mae'r 11eg Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau (ICD-11), a ryddhawyd yn Ionawr 2021,[5] yn nodi diffygion megis gallu'r unigolyn i ddechrau sgwrsio ac ymddygiad cyfyngedig neu ailadroddus sy'n anarferol i oedran neu sefyllfa'r unigolyn. Er bod y diffygion hyn yn gysylltiedig â phlentyndod cynnar, gall y symptomau ymddangos yn hwyrach, ond gyda mymryn mwy o ryngweithio cymdeithasol. Gall diffygion achosi rhwystrau mewn sefyllfaoedd personol, teuluol, cymdeithasol, addysgol a galwedigaethol; mae'r rhai sy'n cael diagnosis o ASD yn amrywio o'r annibynnol a'r dawnus i'r rhai hynod heriol ac anghenus sydd angen ymyrraeth a chymorth hirdymor.[6][7][8][9] Yn gysylltiedig ag ASD mae'r ffenoteip awtistiaeth eang (BAP), lle mae gan unigolion rai o symptomau ASD, ond nifer annigonol neu ddwysedd symptomau i gyfiawnhau diagnosis ASD; Mae BAP yn arbennig o gyffredin ymhlith perthnasau-gwaed agos unigolion ag ASD.[10]
Gellir canfod symptomau cyn bod y plenty yn ddwyflwydd oed a gall ymarferwyr profiadol roi diagnosis dibynadwy erbyn yr oedran hwnnw. Fodd bynnag, efallai na fydd diagnosis yn digwydd tan lawer hŷn: pan fyddant yn oedolion. Gall arwyddion person gydag ASD gynnwys:
ymddygiadau penodol neu ailadroddus,
sensitifrwydd uchel i ddeunyddiau,
cynnwrf gan newid trefn,
ymddangos fel petaent yn dangos llai o ddiddordeb mewn eraill,
osgoi cyswllt llygad a chyfyngiadau mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a chyda chyfathrebu llafar.
Pan ddaw rhyngweithio cymdeithasol yn bwysicach, ac os yw'r cyflwr wedi'i anwybyddu, yna ceir allgáu cymdeithasol (yr unigolyn yn cael ei anwybyddu, neu'n ynysig) ac maent yn fwy tebygol o fod â chyflyrau meddyliol a chorfforol sy'n cydfodoli.[11][12] Gall problemau hirdymor gynnwys anawsterau mewn bywyd bob dydd megis rheoli amserlenni, gorsensitifrwydd (ee i fwydydd, sŵn, gwead ffabrig), cychwyn a chynnal perthynas a chynnal swydd.[13][14]
Mae achos sbectrwm awtistiaeth yn parhau i fod yn ansicr. Ceir astudiaethau genetig a niwrowyddonol lle nodir patrymau risg, ond heb fawr ddim sydd o fudd ymarferol ar hyn o bryd.[15][16] Mae ymchwil ar efeilliaid yn dangos mwy o debygolrwydd o etifeddu'r cyflwr dros ffactorau amgylcheddol, ond ni wyddus pam. Mae astudiaethau sy'n cymharu data o sawl gwlad hefyd yn nodi cysylltiad genetig.[17][18][19] Gall ffactorau risg gynnwys hanes teuluol o ASD, bod â rhiant hŷn, rhai cyflyrau genetig a rhai cyffuriau a ragnodwyd (hy a roed ar bresgripsiwn) yn ystod beichiogrwydd.[20][21][22][23][24]
Mae diagnosis yn seiliedig ar arsylwi ymddygiad a datblygiad. Mae'n bosibl bod llawer, yn enwedig merched a'r rhai sydd â sgiliau llafar da, wedi cael diagnosis anghywir o gyflyrau eraill. Gall asesu plant gynnwys: gofalwyr, y plentyn os yw’n alluog, meddygon a thîm craidd o weithwyr proffesiynol gan gynnwys pediatregwyr, seiciatryddion plant, therapyddion lleferydd ac iaith a seicolegwyr clinigol neu addysgol.[25][26][27] Ar gyfer oedolion, mae clinigwyr yn nodi hanes niwroddatblygiadol, ymddygiad, anawsterau cyfathrebu, diddordebau cyfyngedig a phroblemau mewn addysg, cyflogaeth a pherthynas cymdeithasol. Gellir asesu ymddygiad heriol drwy ddadansoddiad swyddogaethol i nodi'r sbardunau sy'n ei achosi.[28]
Ystyrir sbectrwm awtistiaeth yn gyflwr gydol-oes heb unrhyw brawf na gwellhad syml.[29][30] Ychydig iawn o'r gwahanol driniaethau sydd wedi'u gwerthuso'n wyddonol ac yn annibynnol. Ond gellir cefnogi'r unigolyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys: addysgu sgiliau cymdeithasol ac ymddygiadol, monitro, cynnwys amodau sy'n cydfodoli, ac arweiniad i ofalwyr, teulu, addysgwyr a chyflogwyr.[31] Nid oes meddyginiaeth benodol ar gyfer ASD; gellir rhagnodi cyffuriau ar gyfer symptomau fel gorbryder ond mae risgiau sylweddol. Canfu astudiaeth yn 2019[32] fod rheoli ymddygiad heriol yn gyffredinol o ansawdd isel, heb fawr o gefnogaeth i ddefnydd hirdymor o gyffuriau seicotropig, a phryderon am eu presgreibio'n amhriodol.[33][34] Credir fod ymchwil genetig wedi gwella dealltwriaeth o lwybrau moleciwlaidd mewn ASD ac mae ymchwil mewn anifeiliaid wedi tynnu sylw at wrthdroadwyedd ffenoteipiau, ond dim ond megis dechrau mae'r astudiaethau hyn.[35]
Mae nifer yr achosion o ASD, yn fyd-eang yn amrywio, ac mae mynediad, ymchwil, casglu data, offer asesu, cyflawnder cofnodion, a chwmpas daearyddol, yn ogystal â gwahaniaethau diwylliannol a chyllid yn effeithio arnynt, heb lawer o gysondeb.[36][37][38] Daw'r rhan fwyaf o'r data o wledydd incwm uchel; mae prinder data o Affrica[39][40] a De America.[41] Dangosodd astudiaeth yn 2019 o blant yn Nenmarc, y Ffindir, Gwlad yr Iâ a Ffrainc raddfa o 1.26%, 0.77%, 3.13% a (hyd at) 0.73% yn Ffrainc gydag ASD yn y drefn honno. [42] Roedd gan UDA (2016) raddfa cymedrig o 1.9% (3.0% o fechgyn a 0.7% o ferched)[36] a Chanada (yn 2018) gyda 1.5% (2.39% o fechgyn a 0.6% o ferched).[43] Dangosodd amcangyfrifon Gwyddelig (yn 2018) fod gan 1.5% ASD, yn debyg i Gymru, Norwy a'r Eidal ond yn is na De Corea ar 2.64%.[44] Rhoddodd meta-ddadansoddiad o Tsieina (2016) gymedr isel o 0.39%, o bosibl oherwydd gwahanol offer sgrinio.[45] Mae cynnydd ymddangosiadol yn nifer yr achosion o ASD wedi'i briodoli i newidiadau mewn arferion o fesur ac adrodd.[46][47] Mae gwrywod yn cael diagnosis o ASD tua phedair gwaith yn amlach na menywod.[48][49] Ni wyddus pam, gydag awgrymiadau’n cynnwys lefel testosterone uwch yn y groth, cyflwyniad gwahanol o symptomau mewn merched (gan arwain at gamddiagnosis) neu ragfarn rhywedd yn unig.[50][51]
Mae grwpiau eiriolaeth wedi dod i'r amlwg, rhai fel rhan o'r mudiad hawliau awtistiaeth, gan gynnig cymorth a herio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.[52][53][54] Mae'r grwpiau'n cwmpasu'r rhai o blaid neu yn erbyn triniaeth cyffuriau, ymchwil biogenetig, therapi ymddygiad, newid addysgol a chymdeithasol neu gredoau am docsinau-amgylcheddol. Mae termau fel niwroamrywiaeth (neurodiversity) a niwro -nodweddiadol (neurotypical) wedi'u poblogeiddio a'u defnyddio weithiau mewn llenyddiaeth feddygol. Mae beirniaid, gan gynnwys y rhai ar y sbectrwm, wedi cwyno am wreiddiau barn rhai grwpiau. [53][55][56][57] Yn y broses hon, datgelwyd anghytundebau sylweddol yn y dehongliad o ASD gan arbenigwyr o wahanol wledydd, a rhai'n galw'r newidiadau diagnostig ers 2000 yn "ffenomen Americanaidd".[52]
↑Glover G., Williams R., Branford, D., Avery, R., Chauhan, U., Hoghton, M. and Bernard, S. Prescribing of psychotropic drugs to people with learning disabilities and/or autism by general practitioners in England. Public Health England. (2015)
↑"A comparison of autism prevalence trends in Denmark and Western Australia". Journal of Autism and Developmental Disorders41 (12): 1601–1608. Rhagfyr 2011. doi:10.1007/s10803-011-1186-0. PMID21311963.
↑"Autism and social movements: French parents' associations and international autistic individuals' organisations". Sociology of Health & Illness30 (1): 76–96. Ionawr 2008. doi:10.1111/j.1467-9566.2007.01053.x. PMID18254834.
↑Delobel-Ayoub, M.; Saemundsen, E.; Gissler, M.; Ego, A.; Moilanen, I.; Ebeling, H.; Rafnsson, V.; Klapouszczak, D. et al. (2019-12-07). "Prevalence of Autism Spectrum Disorder in 7–9-Year-Old Children in Denmark, Finland, France and Iceland: A Population-Based Registries Approach Within the ASDEU Project". Journal of Autism and Developmental Disorders (Springer Science and Business Media LLC) 50 (3): 949–959. doi:10.1007/s10803-019-04328-y. ISSN0162-3257.
↑"Explaining the increase in the prevalence of autism spectrum disorders: the proportion attributable to changes in reporting practices". JAMA Pediatrics169 (1): 56–62. Ionawr 2015. doi:10.1001/jamapediatrics.2014.1893. PMID25365033.
↑"Autism spectrum disorders in young children: effect of changes in diagnostic practices". International Journal of Epidemiology38 (5): 1245–1254. Hydref 2009. doi:10.1093/ije/dyp260. PMID19737795.
↑Fundamentals of Abnormal Psychology. New York: Worth/Macmillan. 2019.Comer RJ, Comer JS (2019). Fundamentals of Abnormal Psychology. New York: Worth/Macmillan.
↑ 52.052.1"Autism and social movements: French parents' associations and international autistic individuals' organisations". Sociology of Health & Illness30 (1): 76–96. Ionawr 2008. doi:10.1111/j.1467-9566.2007.01053.x. PMID18254834.Chamak B (Ionawr 2008). "Autism and social movements: French parents' associations and international autistic individuals' organisations". Sociology of Health & Illness. 30 (1): 76–96. doi:10.1111/j.1467-9566.2007.01053.x. PMID18254834.
↑"Fieldwork on Another Planet: Social Science Perspectives on the Autism Spectrum" (yn en). BioSocieties3 (3): 325–341. 1 Medi2008. doi:10.1017/S1745855208006236. ISSN1745-8560.