Sbriws | |
---|---|
![]() | |
Sbriwsen Norwy (Picea abies) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Pinophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Pinales |
Teulu: | Pinaceae |
Genws: | Picea Link |
Rhywogaethau | |
Gweler y testun |
Conwydden fytholwyrdd o'r genws Picea yw sbriwsen (hefyd pefrwydden neu pyrwydden). Ceir sbriws mewn rhanbarthau gogleddol neu fynyddig yn Ewrasia a Gogledd America. Mae ganddynt siâp conigol, rhisgl tenau a chennog a chonau crog. Mae eu dail miniog yn tyfu o begiau prennaidd. Defnyddir pren sbriws i wneud papur a llawer o gynhyrchion eraill. Mae rhai rhywogaethau'n boblogaidd fel coed Nadolig.