Math | bae |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynysoedd Erch |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 58.9°N 3.05°W |
Culfor yn Ynysoedd Erch yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Scapa Flow (Hen Lychlynneg: Skalpaflói). Fe'i amgylchynir gan ynysoedd Mainland, Graemsay, Burray, South Ronaldsay a Hoy. Mae ei arwynebedd tua 140 milltir sgwar, ac mae'n 160 troedfedd o ddyfnder yn y man dyfnaf, gyda dyfnder y rhan fwyaf tua 70 troedfedd.
Scapa Flow oedd prif ganolfan y Llynges Brydeinig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Yn 1919, suddwyd 51 o longau Llynges yr Almaen gan eu criwiau eu hunain yma. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, llwyddodd y llong danfor U47 dan Günther Prien i fynd heibio amddiffynfeydd Scapa Flow a suddo'r llong ryfel HMS Royal Oak. Collwyd 833 o griw y Royal Oak. Yn dilyn yr ymosodiad yma, gorchymynodd Winston Churchill adeiladu'r "Churchill Barriers", cyfres o gobiau sy'n cau nifer o'r mynedfeydd i Scapa Flow. Gadawodd y llynges yr ardal yn 1956.