Sean Connery | |
---|---|
Ganwyd | Thomas Sean Connery 25 Awst 1930 Caeredin, Fountainbridge |
Bu farw | 31 Hydref 2020 Lyford Cay |
Man preswyl | Lyford Cay, Domaine de Terre Blanche, Kranidi, Marbella, Caeredin |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, actor cymeriad, actor, cynhyrchydd ffilm, actor llwyfan, sgriptiwr, actor teledu, actor llais, dyn llaeth, pêl-droediwr, cyfarwyddwr ffilm |
Cyflogwr | |
Taldra | 1.89 metr |
Plaid Wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Tad | Joseph Connery |
Mam | Euphemia McLean |
Priod | Diane Cilento, Micheline Roquebrune |
Plant | Jason Connery |
Gwobr/au | Gwobr Henrietta, Gwobr y Cylch Beirniaid Ffilm i'r Actor Gorau, National Board of Review Award for Best Supporting Actor, German Film Award for Best Actor, Kansas City Film Critics Circle Award for Best Supporting Actor, Commandeur des Arts et des Lettres, Chevalier de la Légion d'Honneur, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, Gwobr y Glob Aur am yr Actor Cefnogol Gorau - ar ffim, Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr Golden Globe Cecil B. DeMille, MTV Movie Award for Best On-Screen Duo, Gwobr Cymdeithas Academi BAFTA, Anrhydedd y Kennedy Center, Jameson People's Choice Award for Best Actor, Marchog Faglor, Grand Officer of Order of Manuel Amador Guerrero, Gwobr Cyflawniad Oes yr Academi Ffilm Ewropeaidd, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, CBE, doethur anrhydeddus Prifysgol St Andrews, Urdd Manuel Amador Guerrero, Golden Globes, Y Llew Aur, Gwobr Saturn |
Gwefan | https://www.seanconnery.com/ |
Chwaraeon | |
Safle | canolwr |
llofnod | |
Actor a chynhyrchydd o'r Alban oedd Syr Thomas Sean Connery, a adnabyddir fel Sean Connery (25 Awst 1930 – 31 Hydref 2020).[1][2][3] Ef oedd y cyntaf i bortreadu yr asiant cudd James Bond ar ffilm. Mae Connery wedi ennill Gwobr yr Academi, Golden Globe a BAFTA. Yn 1987, enillodd Wobr yr Academi fel yr Actor Cefnogol Gorau am ei rôl yn The Untouchables. Cafodd ei urddo gan Elisabeth II, brenhines y DU yng Ngorffennaf 2000, ond ers hynny mae wedi datgan ei fod yn gryf o blaid annibyniaeth i'r Alban.
Roedd Connery hefyd yn enwog am gadw'i acen Albanaidd mewn ffilmiau, waeth beth yw cenedligrwydd y cymeriad roedd yn ei chwarae. Er ei fod yn hŷn na'r mwyafrif o symbolau rhyw traddodiadol, cafodd ei enwi fel un o'r dynion mwyaf golygus yn barhaus gan amryw gylchgronau o ganlyniad i'w ymddangosiad garw.