Sean Lock | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 22 Ebrill 1963 ![]() Chertsey ![]() |
Bu farw | 16 Awst 2021 ![]() o canser yr ysgyfaint ![]() Muswell Hill ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, actor, sgriptiwr, digrifwr stand-yp, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd ffilm, actor teledu ![]() |
Arddull | deadpan, digrifwch swreal ![]() |
Gwobr/au | Gwobrau Comedi Prydain ![]() |
Digrifwr ac actor o Loegr oedd Sean Lock (22 Ebrill 1963 – 16 Awst 2021)[1]. Dechreuodd ei yrfa fel comedïwr ar ei sefyll, ac enillodd Wobr Gomedi Prydain yn 2000 yn y categori Comedïwr Byw Gorau ac fe'i enwebwyd ar gyfer y Wobr Gomedi Perrier.[2]
Adnabyddir Lock yn dda ar gyfer ei ymddangosiadau ar deledu a radio. Roedd wedi ysgrifennu comedi i gomedïwyr eraill megis Bill Bailey, Lee Evans a Mark Lamarr ac yn 2007 fe'i bleidleisiwyd i'r 55ain safle ar restr Channel 4 y 100 Comedïwr ar ei Sefyll Gorau, yn 2010 daeth i'r 19eg safle ar yr un rhestr. Mae'n bosib ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel capten tîm ar y rhaglen gomedi banel 8 Out of 10 Cats o'i ddechrau yn 2005 hyd at 2015. Aeth ymlaen i fod yn gapten tîm rheolaidd ar y chwaer rhaglen 8 Out of 10 Cats Does Countdown.