Sebon eillio

Sebon eillio wedi ei ewynnu mewn mẃg eillio
Soldado israelí aplicándose crema para afeitar, 1969
Milwr Byddin Israel yn dodi sebon eillio, 1969
Sebon eillio cwmni Taylor of Old Bond Street, Llundain mewn disgyl
Eli traddodiadol mewn tiwb. Gellir gwasgu'r eli fewn i gwpan gyntaf neu dodi'n syth ar y wyneb gyda'r bysedd ac yna creu ewyn gyda'r brwsh

Mae sebon eillio, neu eli eillio, hefyd ar lafar sebon siafio, fel arfer yn cynnwys sebon potasiwm pur neu gymysgedd o sebonnau potasiwm a triethanolamine. Mae'r llewyrch 'gloss' nodweddiadol yn cael ei achosi gan gynnwys asid stearig rhydd. Yn aml mae asiant gor-iro - Vaseline, cwyr gwlân, ac ati - hefyd yn cael ei gynnwys, yn ogystal â sylweddau sy'n rhwymo dŵr (h.y. cadw lleithder) fel. B. glyserin neu sorbitol. [1] Hefyd mae persawr yn rhan gyffredin o'r cynnwys. Er mai prynu sebon eillio sydd fwyaf cyffredin, mae modd cynhyrchu sebon eillio bersonol, ceir cyfarwyddiadau, yn y Gymraeg gan gwmni Birmiss.[1]

  1. Beth Yw Sebon I Eillio? Sut I Wneud Sebon I Eillio Ei Ddwylo Ei Hun?

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne