Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1912

Dim ond un ras seiclo a gynhaliwyd yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1912 yn Stockholm. Treial amser oedd hwn, gyda'r amser yn cyfrif fel cystadleuaeth unigol ac yn cyfrif tuag at cystadleuaeth tîm. Cynhaliwyd y ras ar 7 Gorffennaf 1912.

Daeth cymdeithasau pob gwlad i gytundeg mai dim ond seiclwyr amatur a oedd yn dal trwydded rasio yr Union Cycliste Internationale oedd yn gymwys i gystadlu. Roedd yn rhaid cyflwyno'r drwydded wrth gofrestru i gychwyn y ras.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne