Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1984

Cynhaliwyd wyth cystadleuaeth seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1984 yn Los Angeles, yr Unol Daleithiau, sef tri ar y ffordd a pump ar y trac. Cynhaliwyd cystadleuaeth seiclo ar gyfer merched yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf erioed ym 1984, gyda dim ond un cystadleuaeth, sef ras ffordd unigol. Cyflwynwyd hefyd am y tro cyntaf, ras bwyntiau ar y trac ar gyfer y dynion.

Cynhaliwyd y seiclo trac yn y Velodrome Olympaidd a noddwyd gan 7-Eleven, Prifysgol Talaith California, yn ardal Dominguez Hills, Carson a cynhaliwyd y seiclo ffordd yn Mission Viejo, Orange County.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne